Mae Syr Mo Farah wedi ei rybuddio i feddwl yn ofalus cyn mynd i ffilmio rhaglen selebriti yng Nghastell Gwrych.

Mae’n debyg bod y rhedwr, sydd wedi ennill aur yn y Gemau Olympaidd bedair gwaith, yn un o’r enwogion fydd yn ymddangos ar I’m A Celebrity…Get Me Out of Here! eleni.

Yn wahanol i’r arfer, mae’r rhaglen yn cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych yn Abergele am nad oes modd teithio i Awstralia yn sgil pandemig y coronafeirws.

Fel arfer, byddai prif weithredwr UK Athletics Joanna Coates yn croesawu’r sylw ychwanegol byddai athletau’n cael gyda Syr Mo Farah yn ymddangos ar y rhaglen.

Ond gyda Gemau Olympaidd Tokyo y flwyddyn nesaf ar y gorwel, lle bydd Mo Farah yn amddiffyn ei deitl 10,000 metr, mae Joanna Coates wedi annog y rhedwr i ystyried a fydd bod ar y rhaglen yn effeithio ar ei hyfforddi.

“O safbwynt marchnata, mae cael athletwyr ar raglenni teledu yn wych,” meddai Joanna Coates.

“Fodd bynnag, ni fyddech eisiau i hynny effeithio ar berfformiad athletwr.

“Os bydd [Mo Farah] yno, dw i’n dychmygu y bydd trafodaethau hirfaith yn cael eu cynnal ynghylch sut y bydd hyn yn effeithio ar ei berfformiad.”