Wythnos ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r clo dros dro, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi cymorth ariannol i bobol sy’n gorfod hunanynysu.

Daw hyn wrth i gynllun ffyrlo Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddod i ben y penwythnos hwn.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn yma, cyhoeddodd Mark Drakeford ddau gynllun gwahanol.

Bydd £32m ar gael ar gyfer y taliadau a fydd yn ceisio dileu’r rhwystrau ariannol sy’n wynebu pobol sy’n gorfod hunanynysu.

£500 i bobol sydd ar incwm isel

Bydd modd i bobol sydd ar incwm isel wneud cais am daliad o £500 os ydyn nhw wedi cael prawf coronafeirws positif, neu os yw gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd yn gofyn iddyn nhw hunanynysu.

Bydd pobol yn gallu gwneud cais am y taliadau ar wefan eu cyngor sir lleol a byddant yn gallu ôl-ddyddio eu ceisiadau i Hydref 23.

Cynyddu taliad salwch statudol gweithlu gofal

Bydd taliad ychwanegol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn cynyddu tâl salwch statudol gweithwyr i’w cyflog arferol, os oes rhaid iddyn nhw gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd bod ganddyn nhw’r coronafeirws neu oherwydd eu bod yn hunanynysu.

Bydd y cynllun yn dechrau ar Dachwedd 1 a bydd yn para tan Fawrth 31, 2021.

“Colli incwm”

“Mae gofyn i bobol hunanynysu yn ffordd bwysig o dorri ar drosglwyddiad y feirws, ond i lawer o bobol gall hyn olygu colli incwm”, meddai Mark Drakeford.

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein hiechyd ni ein hunain ac iechyd ein hanwyliaid hefyd, ond gwyddom pa mor anodd y gall hynny fod os oes rhaid dewis rhwng aros gartref a methu bwydo eich teulu, neu fynd i’r gwaith.

“Mae’r cynlluniau cymorth newydd hyn wedi’u cynllunio ar gyfer pobol ar incwm isel, a’u bwriad yw lleddfu rhywfaint ar y pwysau ariannol y mae pobol yn ei wynebu os gofynnir iddyn nhw hunanynysu.”

Dim rhagor o gyfyngiadau lleol

Eglurodd Mark Drakefod fod y Cabinet wedi cyfarfod yr wythnos yma, ac wedi penderfynu peidio â dychwelyd at y rhwydwaith o gyfyngiadau lleol oedd mewn lle cyn y clo dros dro.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno set syml o reolau cenedlaethol.

“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio’n galed i greu’r set newydd yma o fesurau, a fydd yn ein hamddiffyn ynghyd â rhoi cymaint o ryddid ag sy’n ymarferol,” meddai.

Ychwanegodd y bydd y cyfnod clo dros dro yn dod i ben ar ddydd Llun Tachwedd 9 ac fe fydd:

  • siopau, bariau, bwytai a champfeydd yn ailagor
  • disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol
  • eglwysi a mannau addoli yn ailddechrau gwasanaethau
  • canolfannau cymunedol ar gael i grwpiau bach gyfarfod yn ddiogel dan do yn ystod misoedd y gaeaf.
  • gweithio o gartref yn fwy angenrheidiol

Ffigurau diweddaraf:

  • Mwy na 220 o achosion o’r coronafeirws i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru.
  • 1,191 o achosion o’r coronafeirws mewn ysbytai – 20% yn uwch nag wythnos diwethaf.

“Ni allaf fynegi’r tristwch rwy’n teimlo o orfod dweud hyn wrthych heddiw – mae dros 80 o deuluoedd yr wythnos yma yn profi’r boen, y galar a’r golled sy’n deillio o’r clefyd yma, clefyd nad oeddem wedi clywed amdano’r adeg hon y llynedd.” meddai Mark Drakeford.

Hefyd fe gyhoeddodd y Prif Weinidog ei bod hi bellach yn drosedd i roi gwybodaeth gelwyddog i swyddogion profi-ac-olrhain y Gwasanaeth Iechyd.