Achosodd y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan gynnydd “sylweddol” mewn achosion newydd o’r coronafeirws, meddai astudiaeth newydd.
Yn ôl Prifysgol Warwick daeth cynnydd sydyn mewn clystyrau o’r haint i’r amlwg wythnos ar ôl i’r cynllun ddechrau.
Cafodd y cynllun ei gyflwyno er mwyn hybu’r economi ar ôl y Cloi Mawr, gan alluogi tafarndai a bwytai i gynnig prydau am bris gostyngol ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher ym mis Awst.
Ond mae ymchwil y brifysgol yn awgrymu bod modd cysylltu rhwng 8% a 17% o glystyrau newydd o’r haint â’r cynllun.
Dywedodd Dr Thiemo Fetzer, Athro yn yr adran Economeg ym Mhrifysgol Warwick wrth Sky News: “Gwelodd y Deyrnas Unedig ffrwydrad enfawr o achosion mewn ffordd na welwyd mewn gwledydd eraill.
“Y cynllun hwnnw sydd wedi helpu i sicrhau ail gyfnod clo cynharach a chyfyngiadau ar y sector bwytai, sef y sector yr oedd y cynllun yn ceisio helpu.”
“Nifer o wledydd eraill wedi profi cynnydd mewn achosion”
Mae’r Trysorlys wedi ymateb drwy ddweud bod “nifer o wledydd eraill wedi profi cynnydd mewn achosion.”
“Mae llawer o wledydd eraill yn Ewrop wedi profi cynnydd mewn achosion, boed mesurau tebyg wedi cael eu cyflwyno ar gyfer y diwydiant lletygarwch neu beidio,” meddai llefarydd ar ran y Trysorlys.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda busnesau i’w helpu i fod yn ddiogel yn ystod y pandemig.”
Sgwrsio dan do yn “bennaf” gyfrifol am gynnydd mewn achosion – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Roedd sgwrsio mewn tafarndai, bwytai a chartrefi “yn bennaf” gyfrifol am achosi cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws cyn y cyfnod clo dros dro, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Chris Williams, o dîm dadansoddi data Iechyd Cyhoeddus Cymru, nad oedd bai ar leoliadau am ymlediad y feirws.
“Nid yw’n ymwneud yn benodol â natur y dafarn na’r bar,” meddai Dr Chris Williams.
“Ond yn hytrach y ffaith bod pobol yn siarad â rhywun ar draws bwrdd sydd ar aelwyd wahanol.
“Mae siarad yn ogystal â chanu a gweiddi, yn anffodus, yn ffordd wych o drosglwyddo’r feirws.
“Dyna’r math beth sydd i’w gweld yn y niferoedd cynyddol o achosion.”