Ar drothwy Calan Gaeaf mae ymchwil gan GetAgent.co.uk wedi canfod bod prynwyr tai mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a Lloegr yn talu degau o filoedd yn llai am gartrefi sy’n rhif 13 yn eu stryd.

Dadansoddodd GetAgent.co.uk gofnodion prisiau tai rhif 13 a werthwyd ers Calan Gaeaf diwethaf, gan gymharu â phrisiau tai rhifau eraill.

Mae’r ffigurau’n dangos bod prynwyr tai yng Nghymru a Lloegr, ar gyfartaledd, wedi talu £222,500 am gartrefi gyda’r rhif 13 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hyn 3% yn llai na’r cyfartaledd cyffredinol o £230,00, sy’n cyfateb i £7,500 yn llai.

Yng Nghymru, roedd prynwyr tai wedi talu, ar gyfartaledd £157,985, tra bod tai rhif 13 wedi costio £155,886 – gwahaniaeth o 1%, sy’n cyfateb i £2,099 yn llai.

47% yn is yng ngogledd-ddwyrain Lloegr

Cartrefi ym Middlesbrough a welodd y gostyngiad mwyaf o ran canran, gyda phrisiau tai rhif 13 47% yn is, sy’n cyfateb i £54,000.

“Mae’n anodd credu bod cymaint ag £80,000 o wahaniaeth mewn prisiau gwerthiant rhwng cartrefi Rhif 13 a rhifau eraill,” meddai’r ymchwilwyr.

“Mae’n annhebygol mai cyd-ddigwyddiad yw hyn, ac felly mae’r stigma negyddol sy’n gysylltiedig â Rhif 13 yn fyw ac yn iach.”