Mae angen gorfodi arwerthwyr tai i ddarparu ‘Pecynnau Croeso’ i ddarpar brynwyr, meddai Iwan Hywel o gorff Mentrau Iaith Cymru.

Mae pecynnau o’r fath yn pwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, ac yn manylu ar gyfleon i ddysgu’r iaith, i bobol sy’n symud i fyw i Gymru.

Mae cyfraddau ail dai a thai haf yn bwnc llosg cyfredol yng nghefn gwlad Cymru, gyda nifer yn pryderu bod y feirws wedi bod yn gatalydd ar gyfer cynnydd.

Yn sgil y sefyllfa, dywedodd Iwan Hywel bod angen “ailedrych” ar yr ymdrech ‘Pecynnau Croeso’.

Daw’r drafodaeth yn dilyn cynnig gan Gyngor Tref Nefyn i gynhyrchu ‘Pecyn Ymwybyddiaeth Iaith’ a’u bwriad i alw ar Lywodraeth Cymru i osod gorfodaeth ar asiantaethau tai i’w dosbarthu.

Beth yw ‘Pecyn Croeso?’

Dogfen yw ‘Pecyn Croeso’ sydd yn pwysleisio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, drwy godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at y cyfleodd i ddysgu a defnyddio’r iaith, i’r sawl sy’n dychwelyd neu sydd yn newydd i’r ardal.

Er bod pob pecyn yn amrywio yn ôl pob asiantaeth, gan amlaf maen nhw yn cynnwys ystadegau ynglŷn â’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg a gwybodaeth gyswllt ar gyfer cymdeithasau a mudiadau Cymraeg y dalgylch.

Mae rhai hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn ag sut i fynd ati i ddysgu neu ailddysgu’r iaith, gan hefyd ddarparu rhestr o frawddegau neu dermau defnyddiol Cymraeg i’w dysgu.

“Mae angen gorfodaeth”

Er bod Mentrau Iaith, ymhlith asiantaethau eraill, eisoes wedi cynhyrchu pecynnau croeso yn y gorffennol, yn ôl Iwan Hywel o Fentrau Iaith Cymru, “yn y cyfnod sydd ohoni, mae angen ailedrych arnyn nhw.”

“Yn ddelfrydol, mae angen gorfodaeth – bod rhaid i bob prynwr tŷ dderbyn hwnnw fel pecyn wrth wneud cais i brynu tŷ, a hynny drwy asiantaethau tai.”

Yn ogystal, dywedodd bod angen cydlynu’r broses a chreu pecyn canolog gan sicrhau bod elfennau wedi eu teilwra i bob ardal leol.

Ychwanegodd bod angen cynnal gwerthusiad o effaith a dylanwadu pecynnau sydd eisoes wedi creu, er mwyn “sicrhau eu bod yn cael yr effaith sydd ei hangen ar gyfer y dyfodol.”

Y Comisiynydd Iaith yn cefnogi

“Rydym yn cefnogi ymdrechion i ddosbarthu pecynnau ymwybyddiaeth iaith i brynwyr tai i geisio codi ymwybyddiaeth pobl o’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.

“Rydym yn ymwybodol bod ymdrechion tebyg wedi digwydd mewn rhai mannau yn y gorffennol a buasem yn awyddus i gyfrannu ymhellach at hyn petai awydd i greu prosiect cenedlaethol.

“I sicrhau datrysiad hirdymor a phellgyrhaeddol i’r broblem hon sy’n effeithio mor negyddol ar hyfywedd y Gymraeg fodd bynnag, bydd angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i fynd i’r afael â’r mater.

“Rydym wedi trafod y sefyllfa gyda gweinidogion y Llywodraeth ac aelodau’r Senedd yn ystod y misoedd diwethaf gan bwysleisio’r angen iddynt gyflwyno polisïau tai a datblygu economaidd sy’n gweithio o blaid y Gymraeg a’i siaradwyr.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda awdurdodau lleol a’r Mentrau Iaith i greu pecynnau croeso i bobl sy’n symud i gymunedau Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn hapus i rannu profiadau o ddatblygu cynlluniau o’r fath a byddwn hefyd yn annog i bartneriaid fel y Fenter Iaith leol i gefnogi’r gyngor tref.”