Mae Cyngor Tref Nefyn wedi pasio cynnig i gynhyrchu ‘Pecyn Ymwybyddiaeth Iaith’ gyda chymorth mentrau iaith a chyrff eraill, er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ymhlith darpar brynwyr tai’r ardal.
Mae’r cynnig hefyd yn amlinellu bwriad y cyngor i alw ar Lywodraeth Cymru i osod gorfodaeth ar asiantaethau tai i’w dosbarthu.
Yn ôl cynghorydd Cyngor Tref Nefyn, Rhys Tudur, y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o’r iaith a diwylliant Cymreig, gyda’r nod o warchod enwau tai a thir – drwy chwarae ar gydwybod y rhai sy’n ystyried eu newid.
Mae sawl cwmni gwerthwyr tai wedi croesawu’r datblygiad ac yn gobeithio y bydd yn cael ei efelychu ledled Cymru, nid dim ond ym Mhen Llŷn.
Mae cynigion Cyngor Tref Nefyn fel â chanlyn:
- Cynhyrchu pecyn ymwybyddiaeth iaith gyda chymorth cyrff a mentrau’r iaith Gymraeg ac yn darparu’r pecynnau i brynwyr tai ac i asiantaethau tai’r ardal.
- Galw ar y Llywodraeth i weithio ar y cyd â chyrff a mentrau’r iaith Gymraeg i gynhyrchu pecyn ymwybyddiaeth iaith ac i orfodi asiantaethau tai i ddarparu pecyn ymwybyddiaeth iaith i bob darpar brynwr tŷ yng Nghymru.
“Torri tir newydd”
“Mae hyn yn torri tir newydd,” meddai’r cynghorydd, Rhys Tudur, “rydan ni fel cyngor tref yn awyddus i ddod a mwy o ymwybyddiaeth iaith ar flaen yr agenda a chydweithio hefo mentrau iaith a chyrff eraill i greu’r pecyn.”
“Y pryder sydd ganddo ni, ydi bod pobl yn prynu tai yn yr ardal sydd o bosib yn hollol anymwybodol bod yr iaith yn iaith fyw. Os ydi rhywun yn prynu ail gartref ac yn dod yma am ambell i wyliau, wyrech eu bod yn gwbl anymwybodol o hynny.”
Eglurodd y pwysigrwydd o allu cydweithio gydag arbenigwyr iaith i gynhyrchu’r pecyn, er mwyn sicrhau cymhwysedd.
“Pigo cydwybod”
Er nad yw cynnwys y pecyn wedi ei gadarnhau, dywedodd Rhys Tudur bod angen i’r wybodaeth ddarparu cefndir cyflawn o’r iaith a’r ardal.
“Dani mewn ardal ieithyddol sensitif – mae’r iaith yma’n bodoli ac mae’n hollbwysig bod pobl yn prynu hefo’r cefndir cyflawn ohoni.”
“Drwy godi ymwybyddiaeth o enwau llefydd yn y Gymraeg, enwau tai a thir sydd yn cario darn o hanes – wyrech fod hynny’n mynd i bigo cydwybod, os ydyn nhw’n bwriadu newid yr enw.”
Mae’n rhaid i asiantaethau tai ddarparu tystysgrif effeithlonrwydd egni i bob darpar brynwr tŷ, felly mae’r cynghorydd yn cwestiynu; “Pam ddim darparu pecynnau ymwybyddiaeth iaith hefyd?”
Mae’r Cyngor Tref yn bwriadu ysgrifennu at asiantaethau tai i holi eu barn a’u parodrwydd i ddarparu’r pecynnau o’u gwirfodd.
Asiantaethau tai yn croesawu’r cynnig
Wrth drafod y mater gydag Golwg360, dywedodd yr arwerthwr tai, Dafydd Hardy:
“Dwi’n croesawu’r datblygiad ac yn cytuno dylai hyn fod yn cael ei wneud drwy Gymru – yn hytrach nag dim ond yn Penllŷn.”
“Mae rhywun yn dueddol o gymryd fod pobl yn ymwybodol o’r iaith a’r diwylliant ac ati ond dydi pawb ddim.”
Ychwanegodd y byddai’n awyddus i gynorthwyo gyda’r cynllun, pe bai angen.
Mae Susan Jones o gwmni ‘Eiddo Susan Jones Properties’ ym Mhen Llŷn hefyd wedi croesawu’r pecyn ond rhybuddiodd bod angen bod yn ofalus rhag “gwneud i bobl deimlo bod ’na ddim croeso.”
“Dwi’n meddwl bod o fwy i wneud hefo’r gymuned, yn hytrach na dim ond iaith,” meddai.
“Gosod y cynsail”
Cam cychwynnol yw’r cynnig hwn gan Gyngor Tref Nefyn, yn ôl y cynghorydd Rhys Tudur.
“Y bwriad ydi gosod y cynsail,” meddai.
“Mewn sawl sefyllfa, mae ’na ryw ddiffyg ewyllys ac arafwch yn y broses, drwy gychwyn hyn ein hunain, dwi’n gobeithio y bydd hynny’n gatalydd i gynghorau, nid yn unig plwyf a threfi eraill ond cynghorau sir, i wneud hyn yn bolisi… a hefyd y Llywodraeth.”
Mwy ar hyn: