Mae’r Goruchaf Lys wedi clywed bod rhai o blant mwyaf “bregus” cymdeithas yn cael eu “cloi” mewn llety heb ei gofrestru, sydd weithiau yn is-safonol.
Mae’r llys yn clywed her gyfreithiol gan ferch yn ei harddegau a gafodd ei rhoi mewn llety heb ei gofrestru yn dilyn gorchymyn llys gan nad oedd llefydd ar gael mewn cartref plant cofrestredig.
Ar hyn o bryd, rhaid i gynghorau ofyn i’r Uchel Lys am ganiatâd i roi plant mewn tai heb eu cofrestru, os nad oes lle cofrestredig ar gael.
Mae’r ferch, sy’n cael ei chyfeirio ati fel ‘T’ i’w diogelu, yn herio dyfarniad Llys Apêl a gadarnhaodd ddau orchymyn gan farnwr yn yr Uchel Lys.
Rhoddodd y ddau orchymyn ganiatâd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei rhoi mewn llety anghofrestredig gan ei “hamddifadu o’i rhyddid.”
Mewn dogfennau aeth gerbron y Goruchaf Lys, dywedodd Mark Twomey QC, bargyfreithiwr y ferch: “Effaith penderfyniad y Llys Apêl yw caniatáu ‘cloi’ rhai o blant mwyaf bregus cymdeithas mewn lleoliadau nad ydynt wedi’u hawdurdodi at y diben hwnnw, ac mewn llawer o achosion, lleoliadau nad ydynt yn cael eu rheoli o gwbl.”
“Mae’r rhain yn blant sy’n aml yn cael eu cam-drin yn gorfforol ac yn emosiynol, sy’n agored i niwed ac wedi cael eu hanghofio.”
Ychwanegodd fod y plant “wedi’u cyfyngu i’r fath raddau eu bod yn cael eu hamddifadu o’i rhyddid.”
Cyngor Caerffili ddim yn “cydnabod nac yn derbyn” ei bod yn “cloi” plant mewn llety
Mewn cyflwyniadau ysgrifenedig, dywedodd cyfreithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili nad yw’r awdurdod yn “cydnabod nac yn derbyn” ei bod yn “cloi” plant mewn llety.
Dywedodd ei bod wedi dibynnu ar bwerau’r llysoedd i “hyrwyddo buddiannau ‘T’ a diogelu ei lles”.
Mae gofyn i’r Goruchaf Lys ystyried a yw’n gyfreithlon i farnwyr awdurdodi lleoli plentyn mewn llety anghofrestredig, ac os felly, pa brofion cyfreithiol y dylai’r llys eu hystyried wrth wneud penderfyniadau o’r fath.
Mae’r panel hefyd yn penderfynu a yw parodrwydd plentyn i aros mewn lleoliad anghofrestredig yn berthnasol pan fydd llys yn penderfynu.
Disgwylir i wrandawiad y Goruchaf Lys bara am ddau ddiwrnod, gyda’r panel yn dyfarnu’n ar ddyddiad diweddarach.