Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gweithredu’n gynt er mwyn atal y ddifrod yn sgil Storm Bert, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru.

Yng nghyd-destun y llifogydd diweddaraf, mae Heledd Fychan wedi beirniadu penderfyniad y Llywodraeth i beidio â chynnal ymchwiliad annibynnol yn dilyn Storm Dennis yn 2020.

Ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 27), mewn llythyr at Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, cyfeiriodd Heledd Fychan at “nifer sylweddol o gartrefi a busnesau” yn ei hetholaeth “gafodd eu niweidio’n sylweddol am yr ail, y trydydd neu’r pedwerydd gwaith ers 2020” yn dilyn y llifogydd dros y penwythnos.

Dywed y llythyr fod “pobol yn rhwystredig bod diffyg cynnydd… a diffyg dysgu gwersi”, a bod angen holi unwaith yn rhagor pam nad oedd ymchwiliad annibynnol yn dilyn y trychinebau bedair blynedd a hanner yn ôl.

Cyfeiriodd hi at rybuddion gan Gyfoeth Naturiol Cymru na fu gweithredu arnyn nhw, sydd wedi arwain at gwestiynau ynghylch y system rybuddion.

Yn ogystal, mae hi’n beirniadu diffyg darparu bagiau tywod a llifddorau i nifer o bobol oedd wedi gofyn amdanyn nhw.

Mae hi wedi gofyn ynghylch cynlluniau gweithredu’r Llywodraeth er mwyn gwarchod adeiladau sy’n dal i gal eu hystyried dan fygythiad llifogydd yn y dyfodol.

‘Yr un problemau’n codi’

Wrth drafod ymateb Llywodraeth Cymru, dywed Heledd Fychan fod diffyg ymchwiliad wedi bod yn beth peryglus iawn.

“Mae’n drueni mawr na wnaeth y Cyngor na Llywodraeth Cymru gefnogi galwadau Plaid Cymru am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd yn 2020,” meddai wrth golwg360.

“Oherwydd na fu ymchwiliad o’r fath, gwelwyd nifer o’r un problemau yn codi – rhybuddion cyfoeth naturiol Cymru yn cyrraedd pobol wedi i ddŵr ddod i mewn i’w cartrefi, pobol yn methu cael gafael ar fagiau tywod ac yn aniscr beth i’w wneud na lle i fynd, a gwirfoddolwyr yn mynd ati i wneud gwaith yr awdurdodau, a hynny heb fod yn gweithredu i gynllun cymunedol na chwaith wedi derbyn hyfforddiant.”

“Pryderus” a “blin”

“Mae trigolion yr ardal yn bryderus dros ben bod mwy o lifogydd i ddod y gaeaf hwn, ac eisiau gweld y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn mynd ati i greu cynlluniau ar gyfer pob ardal sydd yn wynebu’r risg hwn,” meddai Heledd Fychan wedyn, wrth drafod ymateb trigolion lleol i’r digwyddiadau dros yr wythnos ddiwethaf.

“Maen nhw hefyd yn flin, yn arbennig y rhai gafodd eu gwrthod rhag cael drws atal llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gan ei bod yn anhebygol dros ben eu bod yn dioddef llifogydd eto.

“Yn amlwg, doedd hynny ddim yn gywir, a rhaid rŵan unioni hynny a deall pam y gwrthodwyd yn dilyn llifogydd 2020.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Yn dilyn Storm Dennis, fe wnaethon ni gomisiynu adolygiad annibynnol o’n prosesau ymchwilio i lifogydd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fe wnaethom hefyd gomisiynu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW) i asesu sut y gellir lleihau llifogydd yng Nghymru.

“Ers 2021, rydym wedi darparu bron i £300m mewn cyllid i Awdurdodau Rheoli Risg yng Nghymru drwy ein rhaglen llifogydd flynyddol.”