Mae busnes gofal mislif Grace & Green wedi symud i Gasnewydd er mwyn darparu swyddi newydd yn yr ardal ac i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â thlodi mislif i ben.
Wrth symud i Gasnewydd, y gobaith yw cynnig hyd at bymtheg o swyddi newydd dros y tair i bum mlynedd nesaf.
Drwy eu partneriaeth â Chynllun Gweithredu Tlodi Mislif Llywodraeth Cymru, mae Grace & Green eisoes yn cefnogi dros 15,000 o bobol ifanc ledled Cymru drwy ddarparu cynhyrchion mislif organig ac ecogyfeillgar.
Mae adleoli i Gasnewydd yn caniatáu i’r busnes gydweithio â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Sir Benfro, Caerffili a Sir y Fflint.
Mae’n cael ei alw’n “gam sylweddol” tuag at nod Grace & Green o wella mynediad at ofal mislif yng Nghymru.
Mae’r cwmni’n gobeithio y bydd mwy o gynghorau yn ceisio partneru â nhw wrth i ymwybyddiaeth o’u gwaith gynyddu.
Gweithrediadau Grace & Green
Mae tîm cyfan Grace & Green eisoes wedi ymweld â’u lleoliad yng Nghasnewydd i baratoi bwndeli o gynhyrchion mislif, fel nad oes neb yn cael eu gadael heb gynhyrchion hanfodol dros y Nadolig.
Enillodd Grace & Green y categori Gwerth Cymdeithasol yng Ngwobrau Go Cymru yn ddiweddar, a hynny am eu hymroddiad i leihau tlodi ar draws y rhanbarth.
Mae’r busnes hefyd yn cynnig gwybodaeth addysgol am ddim, gan gynnwys llyfryn gwybodaeth yn Gymraeg i helpu pobol ifanc i ddeall mislif a glaslencyndod.
Mae denu’r sefydliad hinsawdd-niwtral hwn, y B Corp uchaf yn ei sector yn fyd-eang, i ecosystem fusnes Cymru yn gam arall tuag at nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o gyrraedd sero net.
‘Tanlinellu ein hymrwymiad wrth herio’r stigma’
Dywed Frances Lucraft, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Grace & Green, fod symud gweithgareddau’r cwmni i Gymru’n “gam beiddgar a chyffrous”.
Ychwanega ei fod yn “teimlo fel y lle iawn i ni fod”, yn sgil ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddod â thlodi mislif i ben ac i weithio tuag at sero net.
“Mae lle enfawr i ni dyfu yma yng Nghasnewydd, ac mae’r cam hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, creu swyddi, a mynediad at ofal mislif, wrth i ni herio’r stigma a’r tabŵs sy’n ymwneud ag iechyd mislif ledled Cymru a thu hwnt,” meddai.