Mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr Cymreig yn troi yn yr unfan o ran dyfodol eu harweinydd Andrew RT Davies.

Daw’r amheuon ar ddiwrnod cyhoeddi gweledigaeth Reform UK a Nigel Farage ar gyfer y Deyrnas Unedig, a thrafodaeth ynghylch sut fydd mwy o “siarad gonest” yn eu helpu nhw yng Nghymru.

Fore heddiw (dydd Iau, Tachwedd 28), roedd y wefan newyddion Nation.Cymru yn adrodd bod y rhan fwyaf o’r Aelodau Ceidwadol yn y Senedd wedi ysgrifennu at Andrew RT Davies yn galw arno i gamu o’r neilltu.

Ond mae eraill, gan gynnwys Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, yn awgrymu nad yw hynny’n wir hyd yma.

Mae golwg360 wedi clywed gan ffynhonnell, serch hynny, fod y stori wreiddiol am yr e-bost yn wir, ond does neb o fewn y blaid wedi cytuno i roi sylw hyd yma.

Ond mae un aelod blaenllaw, Huw Davies, wedi bod yn trafod yr hyn y gallai newid arweinydd ei olygu i’r blaid at y dyfodol.

‘Angenrheidiol i lwyddiant y Ceidwadwyr’

Yn ôl Huw Davies, aelod o’r Blaid Geidwadol sy’n gwrthwynebu datganoli, mae ganddo lawer o “gydymdeimlad” tuag at Andrew RT Davies os ydy’r sïon am y pwysau arno i ymddiswyddo’n gywir.

“Mae’n ddigri, i ryw raddau,” meddai wrth golwg360.

“Ar y diwrnod pan fo Reform yn dathlu aelodaeth o ryw 100,000 [ar lefel Brydeinig] yn dal i fyny efo ni (y Blaid Geidwadol), beth mae ein Grŵp ni – yn ôl adroddiadau – yn ei wneud?

“Cynllunio i ddod â’n harweinydd i lawr!

“Fe [Andrew RT Davies] ydi’r unig aelod o’r Grŵp sydd yn cynnig unrhyw fath o strategaeth fydd yn cadw twf Reform yn gymharol fach.”

Dywed y dylai’r Grŵp Ceidwadol yn y Senedd ofni Reform.

“Os ydyn nhw’n cael gwared ar Andrew, ac yn dod â rhywun i mewn sydd yn fwy Cameronite [tebyg i David Cameron] o safbwynt gwleidyddol, mae’r blaid yn mynd i gael eu tostio.”

Yn yr arolygon barn ar hyn o bryd, mae Reform yn perfformio’n well na’r Ceidwadwyr Cymreig, ac felly byddai modd dadlau y gallai newid arweinydd fod yn fuddiol i’r blaid.

Mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch y mater yn dilyn cyfarfod y Grŵp Ceidwadol heddiw.