Mae teulu wedi troi eu cartref yn dŷ Calan Gaeaf er mwyn dod â gwên i wynebau plant yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru, a chodi arian at elusen.

Treuliodd Danny a Carmela Hargreaves, y ddau yn 41 oed, a’u plant Harry, 14, a Rosie, 10, y penwythnos yn gosod dros 100 o addurniadau y tu allan i’w tŷ yn Llandaf, Caerdydd.

Y tu allan i’r tŷ mae beddi, dreigiau, ysbrydion a phwmpenni wedi’u haddurno, yn ogystal â phenglogau gyda llygaid coch.

Mae’r teulu’n gofyn i bobl ddilyn y cyfyngiadau sydd mewn grym ledled Cymru ar hyn o bryd, ac i ymweld â’r tŷ wrth ymarfer corff yn unig.

Bwriad yr arddangosfa ddychrynllyd ydi codi arian at yr elusen Dreams & Wishes, sy’n codi arian ar gyfer plant sâl ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd rhywfaint o’r arian yn mynd tuag at brynu anrhegion Nadolig i blant sy’n ddifrifol wael yn yr ysbyty.

“Mae pobl wedi bod yn dod gyda’u plant ac mae’n rhyfeddol gweld eu hymateb iddo,” meddai Carmela Hargreaves.

“Rydym eisoes wedi cyrraedd ein targed codi arian – mae wedi bod yn gymaint o lwyddiant mewn dim ond tri diwrnod.

“Byddem wrth ein bodd i bobl roi rhagor neu hyd yn oed creu fersiwn eu hunain yn eu cymuned.”

“Mae’n beth hyfryd iawn i’r teulu ei wneud”

Dywedodd Wendy Hobbs, llysgennad busnes yr elusen: “Mae’n beth hyfryd iawn i’r teulu ei wneud. Maen nhw wedi treulio cymaint o amser yn addurno ac mae’n edrych yn anhygoel.

“Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth.”