Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cyllid gwerth £12.5m i gefnogi plant a theuluoedd bregus yn ystod pandemig y coronafeirws.
Bydd y pecyn hwn yn darparu cyllid i amryw wasanaethau i blant a theuluoedd sy’n parhau i gael eu heffeithio gan y feirws.
Dywedodd Julie Morgan, y dirprwy weinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, fod y pecyn yn “sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”
Mae’r pecyn yn cynnwys:
- £2m i’r Gronfa Datblygiad Plant.
- £800,000 i deuluoedd sy’n cael anawsterau yn eu perthynas.
- £860,000 i wella ansawdd gwasanaethau sy’n cael eu cynnig mewn ardaloedd Dechrau’n Deg
- £1.6m i awdurdodau lleol er mwyn cynorthwyo i ddatrys achosion yn ddiogel cyn i achos gael ei yrru at y gofrestr amddiffyn plant.
- £2.2m i awdurdodau lleol i helpu i ddatblygu darpariaeth Cynadledda Grŵp Teulu.
- £3m i helpu i ysgafnhau’r baich o ran yr achosion sydd wedi cronni a chefnogi pobl sy’n gadael gofal, ac i gefnogi gwaith cwmpasu ar gyfer datblygu Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol i Gymru.
- £320,000 i gefnogi Fframwaith Maethu Cenedlaethol Cymru.
“Mae’r coronafeirws wedi cael effaith ddwys ar bob agwedd ar ein bywyd, ac mae’r effaith honno yn parhau,” meddai Julie Morgan.
“Er mwyn helpu i wynebu’r heriau a bodloni’r anghenion hynny, heddiw, rwy’n cyhoeddi pecyn sylweddol o gyllid.
“Bydd yn sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn ystod y cyfnod arbennig o heriol ac eithriadol hwn.”