Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi bod dau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds and Rob McElhenney â diddordeb mewn buddsoddi yn y clwb.

Mae Ryan Reynolds yn fwyaf adnabyddus am serennu yn y ffilmiau Deadpool, a Rob McElhenney sydd yn gyfrifol am greu’r rhaglen gomedi It’s Always Sunny in Philadelphia.

Mewn datganiad nos Fercher (Medi 23) dywedodd y clwb bod 1,223 o aelodau wedi pleidleisio yn y cyfarfod cyffredinol arbennig.

Daeth cadarnhad wythnos ddiwethaf fod cynnig wedi cael ei wneud i brynu’r clwb ac y byddai Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, sy’n berchen ar y clwb ers 2011, yn trafod y cynnig mewn cyfarfod cyffredinol.

Y gred yw bod y ddau eisiau buddsoddi £2m yn y clwb ar unwaith, ac mae sïon y gallai’r clwb fod yn destun rhaglen deledu yn dilyn ei hynt a’i helynt.

Ryan Reynolds yn tynnu coes ar Twitter: