Nigel Owens fydd y dyfarnwr cyntaf i ddyfarnu 100 o brofion ar ôl cael ei benodi i oruchwylio’r gêm Cwpan y Cenhedloedd rhwng Ffrainc â’r Eidal ar 28 Tachwedd.
Dyma fydd ail gêm y Cymro yn y twrnamaint newydd – ei gêm gyntaf fydd Lloegr yn erbyn Georgia ar 14 Tachwedd yn Twickenham, a hynny 17 mlynedd ar ôl iddo ddyfarnu ei brawf cyntaf.
Dywedodd Cadeirydd Rygbi’r Byd, Bill Beaumont: “Ar ran pawb yn Rygbi’r Byd, hoffwn ddweud llongyfarchiadau mawr i Nigel Owens ar gael ei ddethol ar gyfer ei 100fed prawf.
“Mae’n gyflawniad aruthrol ac yn brawf o’i angerdd dros ddyfarnu, ei gymeriad, ei ymroddiad i’r safonau perfformiad a ffitrwydd uchaf posibl, a’i hyblygrwydd dros yrfa drawiadol […] Bydd yn garreg filltir hynod boblogaidd i’r gamp ei dathlu.”
Bydd Joy Neville o Iwerddon hefyd yn gwneud hanes – hi fydd y fenyw gyntaf i gyflawni dyletswyddau’r dyfarnwr teledu pan fydd Cymru’n chwarae Georgia, a’r Alban yn wynebu Fiji.