Mae BBC Wales yn adrodd fod ffrae wedi codi rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys y Deyrnas Unedig ar ôl i Ken Skates, Gweinidog yr Economi, honni bod Banc Datblygu Cymru wedi darparu’r un faint o fenthyciadau a Llywodraeth y DU.
Dywedodd y Trysorlys fod hynny yn “nonsens llwyr”, ac mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau mai dim ond sôn am fenthyciadau yn wythnos gyntaf o fis Ebrill yr oedd Ken Skates.
Cafodd busnesau gyfanswm o 1,335 o fenthyciadau gan Fanc Datblygu Cymru, yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, ond dywedodd y Trysorlys fod dros 50,000 o fusnesau yng Ngymru wedi cael benthyciadau gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU.
Pan ofynnodd y BBC am ragor o fanylion, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Roedd Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Banc Datblygu Cymru wedi ei danysgrifio’n llawn yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill – a rhoddodd 1,335 o fenthyciadau i fusnesau ledled Cymru.
“Tua’r un cyfnod ym mis Ebrill, amcangyfrifwn fod Coronavirus Business Interruption Loan Scheme [cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig] wedi darparu tua 850 o fenthyciadau i fusnesau Cymru.
“Roedd y Gweinidog yn cyfeirio at y cyfnod hwn yn ei gynhadledd i’r wasg.
“Rydym yn cydnabod bod banciau’r stryd fawr wedi mynd ymlaen ers hynny, gyda chynlluniau a gefnogir gan Lywodraeth y DU, i ddarparu amrywiaeth o gymorth i filoedd o fusnesau ledled Cymru yn ystod y pandemig a bod y cymorth hwn wedi bod yn hynod werthfawr.”
Cynllun grantiau’n llawn, meddai Ken Skates
Yn y cyfamser, mae cynllun grantiau busnes gwerth £100m – Cronfa Cydnerthu Economaidd Llywodraeth Cymru – bellach wedi’i thanysgrifio’n llawn yn ôl Llywodraeth Cymru, gyda mwy na 5,500 o fusnesau yn gwneud cais am gymorth.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates: “Mae pwysigrwydd y Gronfa Cydnerthu Economaidd i fusnesau Cymru yn amlwg yn sgil y nifer fawr o geisiadau a dderbyniwyd.
“Gwyddom fod busnesau wedi bod yn paratoi ar gyfer hyn ers peth amser, byth ers i’r gwiriwr cymhwysedd agor yn gynharach y mis hwn.
“Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein busnesau, ein gweithwyr a’n cymunedau drwy’r cyfnod hynod anodd hwn.
“Hoffem atgoffa’r cwmnïau hynny nad ydynt yn gymwys i gael grantiau […] y gallant hefyd wneud cais am gymorth drwy eu hawdurdod lleol.”
“Angen i Lywodraeth Cymru egluro ar frys beth yw’r broses”
Mewn ymateb, mae’r Ceidwadwr, Russell George AoS, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurder ynghylch y gwahanol gynlluniau ariannu – gan fynegi ei sioc bod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi stop ar y cynllun Grantiau Datblygu Busnes.
Dywedodd Gweinidog Economi Cysgodol y Ceidwadwyr, Russell George: “Alla’ i ddim credu nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai galw o’r fath am y Grantiau Datblygu Busnes.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru ailagor y broses ymgeisio a sicrhau bod cyllid yn bodloni’r galw – nid fel arall – neu bydd yn gadael busnesau mewn angen.
“Mae hyn yn dwysáu pryderon busnes os na allant wneud cais am y mathau eraill o gyllid.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru egluro ar frys beth yw’r broses, pwy all wneud cais a chael y wybodaeth hon i gynghorau a busnesau lleol nawr.”