Mae S4C wedi penodi Golygydd Newyddion Digidol cyntaf y sianel, er mwyn denu mwy o bobol ifanc i ymddiddori yn y newyddion.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, treuliodd Ioan Pollard ran helaeth o’i yrfa yn gweithio i BBC Cymru fel newyddiadurwr.
Bu hefyd yn rhan o’r tîm a lansiodd wasanaeth newyddion BBC Cymru Fyw.
“Dw i wrth fy modd o gael y cyfle i arwain y gwasanaeth newydd cyffrous hwn,” meddai.
“Dw i’n gobeithio gosod cyfeiriad clir i’r gwasanaeth i sicrhau ein bod yn cyhoeddi straeon o safon ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd eang.
“Mae yna fwlch gwirioneddol am wasanaeth newyddion digidol newydd, sy’n cyfuno fideo a thestun i gyhoeddi’r straeon diweddaraf i’r gynulleidfa wrth iddyn nhw dorri.”
Targedu cynulleidfa iau
Yn y flwyddyn newydd bydd S4C “yn lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau,” meddai llefarydd.
“Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau na’r hyn sy’n gwylio Newyddion S4C ar deledu, er mwyn iddyn nhw fedru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau.
“Bydd [y gwasanaeth] ar gael ar wefan ac ar ap a bydd y cynnwys hefyd yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol.
“Bydd yn cynnwys pecynnau o raglen Newyddion S4C, straeon materion cyfoes a gwleidyddol, newyddion chwaraeon ac uchafbwyntiau, newyddion i ddysgwyr, newyddion o fyd amaeth a phodlediadau.
“Bydd modd i ddefnyddwyr deilwra’r gwasanaeth iddyn nhw eu hunain a derbyn hysbysiadau am straeon sy’n torri sydd o bwys iddyn nhw neu sy’n lleol i’w hardal nhw.”
“Mae gan Ioan y weledigaeth”
Mae Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C, wedi dweud fod gan y sianel “rôl bwysig” wrth gyflwyno newyddion i gynulleidfaoedd a hynny wrth i batrymau gwylio newid yn gyflym.
“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gallu dod â’r straeon diweddaraf i’n gwylwyr ar flaenau eu bysedd”, meddai.
“Mae gan Ioan y weledigaeth i arwain tîm o newyddiadurwyr er mwyn datblygu llais unigryw i’r gwasanaeth hwn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio.”