Bydd yr astudiaeth gyntaf o’r risg y mae’r coronafeirws yn ei pheri i weithwyr gofal cartref ledled Cymru yn cael ei lansio heddiw (Hydref 30).

Mae’n debyg bod y pandemig wedi cael effaith ar iechyd yr 20,000 o weithwyr sy’n cynnig gofal a chymorth personol i’r henoed neu bobl â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r astudiaeth, sydd o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe gyda chefnogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru, yn cael ei ariannu gan UK Research and Innovation.

Bydd yn asesu iechyd gweithwyr gofal cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys haint y coronafeirws, iechyd meddwl, ac afiechydon eraill.

Bydd yr ymchwilwyr yn cyfuno data iechyd â chyfweliadau gyda gweithwyr gofal cartref i greu darlun cyffredinol o sut mae gweithwyr gofal wedi ymdopi yn ystod y pandemig.

Maen nhw’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at ganlyniadau cyflym i lywio mentrau iechyd cyhoeddus ar gyfer arferion gwaith mwy diogel a chymorth ychwanegol i staff yng Nghymru a gwledydd eraill y DU.

“Er bod llawer o bobl wedi gweithio gartref yn ystod y pandemig, mae gweithwyr gofal cartref wedi parhau i weithio i helpu a chefnogi rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas drwy’r cyfnod digynsail hwn,” meddai’r Athro Mike Robling, Cyfarwyddwr Treialon Iechyd y Boblogaeth yng Nghanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd, a phrif ymchwilydd yr astudiaeth.

“Rydym eisoes yn gwybod o ddata iechyd cyhoeddus cynnar fod y coronafeirws wedi peri mwy o risg i weithwyr gofal cartref nag i weithwyr gofal iechyd, yn rhannol am fod eu gwaith yn golygu cyswllt agos â chleientiaid yn eu cartrefi eu hunain.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein gwaith yn helpu i wella diogelwch ac iechyd ar gyfer y gweithlu hanfodol hwn fel eu bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol.”

Mae’r astudiaeth wedi derbyn £332,000 o gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, rhan o UK Research and Innovation, fel rhan o’r alwad am ymchwil i archwilio effaith y coronafeirws.