Dywed erlynydd gwrth-derfysgaeth Ffrainc fod y dyn a laddodd dri o bobl mewn eglwys yn Nice yn dod o Diwnisia, ei fod tua 20 oed, a’i fod wedi dod i’r wlad o’r Eidal.

Dywedodd Jean-Francois Ricard wrth gynhadledd i’r wasg fod y dyn wedi cyrraedd yr Eidal drwy gyrraedd ynys Lampedusa ym Môr y Canoldir ar 20 Medi, gan yna deithio i Baris ar 9 Hydref.

Daeth y wybodaeth am daith y dyn o ddogfen gan y Groes Goch Eidalaidd, meddai Mr Ricard.

Cafodd yr ymosodwr ei glwyfo’n ddifrifol gan yr heddlu, ac mae ar hyn o bryd yn cael ei drin mewn ysbyty.

Yr ymosodiad yn ninas Nice oedd y trydydd mewn dau fis yn Ffrainc y mae awdurdodau wedi’u priodoli i eithafwyr Mwslimaidd, gan gynnwys yr athro gafodd ei lofruddio ym Mharis.

Daw hyn yr un pryd â dicter cynyddol am bortreadau o Mohammed a ailgyhoeddwyd yn y misoedd diwethaf gan y cylchgrawn dychanol, Charlie Hebdo — wrth i’r ddadl barhau yn Ffrainc, a’r byd Mwslemaidd, dros y darluniau y mae Mwslimiaid yn eu hystyried yn sarhaus ond sy’n cael eu diogelu gan gyfreithiau rhyddid mynegiant Ffrainc.

Golygfa echrydus

Manylodd Mr Ricard ar yr olygfa echrydus y tu mewn i’r eglwys yn Nice lle lladdwyd dyn a menyw gan yr ymosodwr. Bu farw’r trydydd dioddefwr, menyw 44 oed a lwyddodd i ffoi, yn nes ymlaen mewn bwyty cyfagos.

Dioddefodd y fenyw 60 oed y canfuwyd ei chorff wrth fynediad yr eglwys “glwyf dwfn iawn i’w gwddf – bron fel bod y pen wedi’i dorri i ffwrdd” meddai Mr Ricard.

Bu farw’r dyn 55 oed hefyd ar ôl clwyfau dwfn i’w wddf, ychwanegodd yr erlynydd.

Agorwyd ymchwiliad i ‘lofruddiaeth mewn cysylltiad â menter derfysgol’ – term cyffredin ar gyfer troseddau o’r fath.

Dywedodd yr erlynydd nad oedd yr ymosodwr, a anwyd ym 1999, yn hysbys i asiantaethau cudd-wybodaeth fel bygythiad posibl.