Mae Recep Tayyip Erdoğan, Arlywydd Twrci, wedi cyhuddo’r cylchgrawn Charlie Hebdo o achosi “casineb a drwgdeimlad” rhwng ei wlad a Ffrainc.

Daw hyn ar ôl i’r cylchgrawn gyhoeddi cartŵn dychanol o’r arlywydd yn ei ddillad isaf yn dal diod ac yn codi sgert menyw mewn gwisg Islamaidd.

Yn dilyn llofruddiaeth yr athro Samuel Paty ym Mharis yn ddiweddar, mae safiad cadarn Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, wedi cynyddu’r tensiynau rhwng y ddwy wlad.

Sbardunodd safbwynt Emmanuel Macron brotestiadau gwrth-Ffrengig yn Nhwrci a gwledydd Mwslimaidd eraill.

Mae Arlywydd Twrci hefyd wedi cwestiynu cyflwr meddyliol Arlywydd Ffrainc.

‘Dangos diffyg parch’

“Rydym yn condemnio’r cyhoeddiad yn y cylchgrawn Ffrengig, sydd yn dangos diffyg parch at ein ffydd a’n gwerthoedd,” meddai llefarydd Arlywydd Twrci mewn neges ar Twitter.

“Nod y cyhoeddiadau hyn yw achosi casineb a drwgdeimlad.

“Mae defnyddio rhyddid mynegiant i wawdio crefydd a chred yn feddylfryd gwael iawn.”

Mae Fuat Oktay, dirprwy arlywydd Twrci, hefyd wedi condemnio’r cyhoeddiad gan ei ddisgrifio’n “anfoesol”.

“Rwy’n galw ar y gymuned ryngwladol foesol a chydwybodol i siarad yn erbyn y gwarth hwn,” meddai.