Mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru, wedi diolch i’r gwirfoddolwyr a’r grwpiau cymunedol sydd wedi bod yn darparu cymorth yn ystod y cyfnod clo dros dro a’r cloeon blaenorol.
Daeth y clo dros dro cenedlaethol i rym yng Nghymru ddydd Gwener, Hydref 23 a bydd yn para tan ddydd Llun, Tachwedd 9.
“Mae’n wych clywed am yr amrywiol ffyrdd dyfeisgar a chreadigol y mae cymunedau wedi bod yn helpu ei gilydd,” meddai.
“Drwy gydol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau yn gynharach eleni, bu gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector yn gweithio’n eithriadol o galed i helpu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith.
“Gall ymdrech ar y cyd arwain at ganlyniadau hyfryd, a gall gwirfoddoli gael effaith anhygoel a buddiol ar wirfoddolwyr a’r rhai sy’n cael eu cefnogi.
“Gobeithio y byddwch yn parhau i wneud beth bynnag allwch chi yn eich ardal leol – mae’r cyfan yn gwneud gwahaniaeth.
“Diolch i chi i gyd am eich haelioni a’ch caredigrwydd.
“Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu Cymru.”
Hwb i gynlluniau’r dyfodol
Yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau, bu Menter Gymunedol Siop Griffiths ym Mhenygroes yn cydlynu gwaith gwirfoddol yn Nyffryn Nantlle ger Caernarfon.
Roedd dros 50 o wirfoddolwyr yn rhan o’r cynllun ac yn helpu 90 o bobol oedd yn hunanynysu yn yr ardal.
Dywedodd Greta Jams, Swyddog Datblygu a Marchnata Yr Orsaf a Siop Griffiths, wrth DyffrynNantlle360 ei bod hi’n “braf gallu bod ochr draw i’r ffon neu fod o gymorth os oes rhywun angen help gyda nôl presgripsiwn neu siopa”.
Eglurodd hefyd fod y gwirfoddolwyr yn hwb i gynlluniau’r dyfodol.
“Mae’r ffaith ein bod ni wedi cael cymaint o ddiddordeb rŵan mewn gwirfoddoli yn ein cymunedau yn ein gwneud ni’n obeithiol y bydd yna bobol eisiau gwirfoddoli yn y dyfodol,” meddai.
Buddsoddodd y fenter gymunedol hefyd mewn iPad er mwyn galluogi pobol sy’n hunanynysu sydd heb fynediad i’r we i gysylltu â theulu a ffrindiau wyneb yn wyneb.
Ysbryd cymunedol
Un arall fu’n cydlynu gwaith gwirfoddol “dyfeisgar a chreadigol” yw Sara Wall o Sir Fynwy.
Ymunodd dros 100 o wirfoddolwyr, rhwng chwech a 92 oed, yn yr ymdrech leol i greu sgrybs ym Magwyr a Gwndy.
Creodd y grŵp dros 500 o setiau o ddillad sgrybs, 1,200 a mwy o fagiau golchi dillad ac 800 o amddiffynwyr clustiau ar gyfer ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal.
“Roedd yr ysbryd cymunedol yn gynharach eleni yn anhygoel,” meddai Sara Wall.
“Fe wnes i ffrindiau go iawn.
“Mae gwirfoddoli nid yn unig yn dod â budd gwirioneddol i’n cymuned, mae hefyd yn bwysig i’n hiechyd a’n hapusrwydd ein hunain.
“Aeth y gwirfoddolwyr lleol ati i wneud gwyrthiau, gan roi gobaith a chymorth lle’r oedd angen, a dangos i’n harwyr ar y rheng flaen fod eu cymuned yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddyn nhw.”
Ychwanegodd Sara Wall ei bod hi’n annog unrhyw un i ymuno yn yr ymdrechion.
“Mae cyfoeth o waith gwirfoddol y gallwch ei wneud – dim ond i chi roi cynnig arni gyda meddwl agored a brwdfrydedd,” medai.