“Mae’r wlad mewn peryg o golli ei theimlad o undod, a dw i’n credu y gall datganoli drwsio hynny,” meddai Andy Burnham, Maer ardal ddinesig Manceinion a chyn-Aelod Seneddol Llafur, gerbron un o bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi heddiw (dydd Mercher, Hydref 28).

Wrth siarad â’r arglwyddi, ymbiliodd arnyn nhw i gefnogi’r “angen am drefn ddatganoledig iawn” ar Loegr, ac awgrymodd y byddai’r wlad yn elwa o hynny.

“Mae’r wlad wedi dod yn eitha’ rhanedig o ganlyniad i’r cronni arian a phŵer yn San Steffan a Whitehall,” meddai.

“Mae [Llywodraeth Prydain] mor bell i ffwrdd o’r rhannau o’r wlad yr ydw i a Steve [Rotherham, Maer ardal ddinesig Lerpwl] yn eu cynrychioli, dyw hi ddim wir yn eu deall.

“A dyw hi erioed wedi gofalu am eu buddiannau.

“A dw i’n credu bod yna foment yma yn awr.

“Ydyn ni eisiau hyn ai peidio?”

Mae’r Pwyllgor Materion Economaidd yn ymchwilio i effaith Covid-19 ar gyflogaeth, ac roedd sesiwn brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Hydref 27) yn canolbwyntio ar effaith yr argyfwng ar ardaloedd Manceinion a Lerpwl.

Roedd Steve Rotherham hefyd yn rhan o’r sesiwn.

“Bowlen fegio”

Daw sylwadau Andy Burnham yn ystod cyfnod o densiwn dwys rhyngddo fe a Llywodraeth San Steffan.

Mae system cyfyngiadau ‘tair haen’ wedi ei chyflwyno yn Lloegr a’r wythnos ddiwethaf, daeth y cyfyngiadau llymaf i rym yn ardal Manceinion.

Cafodd y cyfyngiadau a phecyn cymorth £60m eu gorfodi ar yr ardal wedi i Andy Burnham feth â tharo bargen a Llywodraeth San Steffan.

Roedd y Maer wedi gobeithio sicrhau £5m yn rhagor er mwyn diogelu pobol ddifreintiedig trwy gyfnod y gaeaf.

“A yw’r [Deyrnas Unedig] yn barod am ddatganoli ai peidio?” meddai gerbron y pwyllgor.

“A dychwelaf at fy mhrofiad yr wythnos ddiwethaf.

“Allwn ni ddim trin datganoli yn fowlen fegio lle’r ydym yn ymbil o hyd, ‘Allwn ni gael ychydig o arian at hyn? Allwn ni gael ychydig o arian at hynny?’

“Nid datganoli yw hynny.”