Mae Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai wedi uno â Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru i roi cyfleoedd addysg newydd i bobol yr ardal.

Nod y cynllun Cyfrif Dysgu Personol yw rhoi mynediad i gyrsiau rhan amser i bobol sydd ar gynllun gwarchod swyddi’r llywodraeth, y mae eu swyddi mewn perygl neu sydd ar gyflogau isel.

Y gobaith yw y bydd yn eu galluogi nhw i ddod o hyd i gyflogaeth neu i newid gyrfa.

Mae’r ddau sefydliad yn cynnig ystod o gymwysterau mewn amrywiol sectorau gan gynnwys peirianneg, adeiladu, technoleg gwybodaeth, gwasanaethau ariannol, digidol, a thwristiaeth a lletygarwch.

‘Cydweithio yw’r unig ffordd o oresgyn heriau eleni’

Eglura David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru, mai “cydweithio yw’r unig ffordd o oresgyn heriau eleni”.

“Mae hwn yn llwybr amgen, rhad ac am ddim a fydd yn rhoi cyfle i newid,” meddai.

“Mae’n wych gweld dau o golegau mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i annog datblygu gyrfa a chefnogi gweithwyr.

“Mae hwn yn gyfnod ansicr iawn i nifer o bobol ledled y wlad; mae’r cynllun yma yn rhoi llwyfan iddyn nhw ddysgu sgiliau newydd a chael mynediad i hyfforddiant a chefnogaeth o’r radd flaenaf.”

Mae’r cynllun ar agor i unrhyw un sydd:

  • dros 19 oed
  • yn gyflogedig ond yn ennill llai na £26,000
  • ar gontract oriau sero
  • ar gynllun gwarchod swyddi’r llywodraeth
  • yn wynebu diswyddiadau

Mae’r bartneriaeth yn cael ei chefnogi gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

‘Llenwi’r bylchau sgiliau yn y gogledd’

“Yn y pendraw, pwrpas y bartneriaeth hon yw adnabod cyfleoedd, llenwi’r bylchau sgiliau yn y gogledd a bod yno i gefnogi’r bobol hynny sydd mewn perygl o golli eu swyddi,” meddai Vicky Barwis, Is-bennaeth ar gyfer Dysgu yn Seiliedig ar Waith ac Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Ngholeg Cambria.

“Os ydy hynny oherwydd y pandemig neu ffactorau economaidd a phersonol eraill, mae opsiynau ar gael i’ch helpu a’ch cefnogi chi wrth gyflawni yn yr yrfa yr ydych yn ei dewis.”

Ychwanegodd James Nelson, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Academaidd Grŵp Llandrillo Menai, y bydd cydweithio yn gwneud y cynllun yn fwy hygyrch i bobol yn y gogledd.

“Rydym yn gobeithio y bydd y bobol sydd wedi’u heffeithio yn cymryd mantais ar y cyllid sydd ar gael a’i fod yn rhoi ychydig o dawelwch meddwl iddyn nhw ar yr adeg heriol hon i bob diwydiant.”

Mae’r ddau sefydliad hefyd yn cefnogi’r prosiect Sgiliau i Gyflogwyr a Chyflogeion sy’n cefnogi y rheiny nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer y cynllun Cyfrif Dysgu Personol.