Mae Wales Online yn adrodd fod BBC Cymru wedi amddiffyn digrifwraig o dras Asiaidd sydd wedi’i beirniadu am ddweud mai “Rishi Sunak yw sut fyddai Tywysog Charles yn edrych â wyneb brown” – drwy ddweud ei bod hi’n “awgrymu bod y Tywysog Charles a’r Canghellor yn edrych yn eitha’ tebyg”.

Daeth sylwadau Leila Navabi ar The Leak, rhaglen ddychan ar y radio sy’n gofyn i westeion drafod straeon newyddion yr wythnos mewn ffordd ddychanol, lle gwnaeth hi berfformio set stand-yp hefyd.

Dywedodd yn ystod y rhaglen nad yw Rishi Sunak “yn cynrychioli’r mwyafrif o bobol frown… oni bai bod gan y mwyafrif o bobol biliwn o bunnoedd”.

Cynllun 50c

Dywedodd hi wedyn ei fod e “fel tad siomedig yn ceisio ennyn ein hoffter drwy fynd â ni allan am ginio crand” wrth drafod ei gynlluniau i gyflwyno darn arian 50c sy’n dathlu amrywiaeth yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd fod y cynllun yn “ystum wag”.

“Does neb yn hoffi’r darn arian,” meddai wedyn, gan ddweud bod yr asgell dde a’r asgell chwith yn cytuno mai ymgais yw’r cynllun i geisio bod yn boblogaidd.

“Mae hefyd yn ymddangos yn gyfleus dros ben fod y mwyafrif o ddarnau arian allan o gylchrediad ar hyn o bryd.

“Efallai y byddai ‘Gallai’r darn arian hwn ladd’ fod yn logo mwy priodol i’w blastro ar ein ceiniogau ar hyn o bryd.

“Mae Rishi Sunak yn cynrychioli llawer o bethau i ni fel cymdeithas, nid lleiaf sut fyddai Tywysog Charles yn edrych â wyneb brown.

“Yr hyn y byddwn i’n ei ddweud yw nad yw Rishi Sunak yn cynrychioli’r mwyafrif o bobol frown, mewn gwirionedd dydy e ddim yn cynrychioli’r mwyafrif o bobol o gwbl, oni bai bod gan y mwyafrif o bobol biliwn o bunnoedd a’ch bod chi i gyd yn ei guddio oddi wrtha i.”

Aeth yn ei blaen wedyn i ddweud nad oes yna’r fath beth â “pherson amrywiol” a’i bod hi’n “frown, nid amrywiol, nid yn hil gymysg”.

“Gewch chi fod yn wyn, ga i fod yn frown,” meddai.

Mae darlledu sylwadau Leila Navabi wedi ennyn dicter Sajid Javid, y cyn-Ganghellor, hefyd wrth iddo ddweud y byddai’n disgwyl y fath ymddygiad gan bobol ar y cyfryngau cymdeithasol, nid gan y BBC.

Ymateb BBC Cymru

“Yn yr achos yma, rydyn ni’n credu bod y ddigrifwraig, oedd yn westai ar y rhaglen, yn awgrymu bod Tywysog Charles a’r Canghellor yn edrych yn eitha’ tebyg,” meddai llefarydd ar ran BBC Cymru.