Mae disgwyl i nifer fawr o blant ddweud eu bod nhw eisiau Lego, Barbie neu Monopoly gan Siôn Corn eleni, wrth i ymchwil ddangos eu bod nhw wedi troi at yr hen ffefrynnau wrth chwarae yn ystod y cyfnod clo eleni.

Mae DreamToys wedi cyhoeddi rhestr wrth i fwy o rieni ddweud eu bod nhw wedi bod yn chwarae â rhai o’r hen deganau gyda’u plant yn ystod ymlediad y coronafeirws, wrth i ysgolion gau a phlant yn gorfod cadw pellter oddi wrth ei gilydd.

Mae Lego yn ymddangos dwywaith ymhlith y 12 hoff degan, ynghyd â thegan Baby Yoda, Peppa Pig, chymeriadau Paw Patrol a Pokémon.

Arolwg

O blith y 2,000 o rieni sydd â phlant o dan ddeg oed a gafodd eu holi ar gyfer yr arolwg, dywedodd 46% ohonyn nhw fod eu plant wedi chwarae mwy â theganau eleni nag arfer oherwydd y cyfnod clo.

Dywedodd 56% eu bod nhw wedi treulio mwy o amser yn chwarae â’u plant, ac fe ddywedodd 88% o’r rheiny fod cyd-chwarae wedi creu perthynas agosach rhyngddyn nhw a’u plant.

“Mae teganau wedi bod yn rhan bwysig o fywydau teuluoedd yn ystod y cyfnod clo, ac rydym yn credu y bydd nifer o’r rhai sydd ar y rhestr yn dod â gwên haeddiannol i wynebau dros y Nadolig hwn,” meddai Gary Grant, cadeirydd pwyllgor dethol DreamToys.