Mae dyfeisiwr gemau yn ceisio barn y cyhoedd am gemau bwrdd Cymraeg, yn y gobaith o drosi un o’i gemau poblogaidd o’r Saesneg.

Cyfarwyddwr cwmni Confident Games yw Ceri Price o Lanelli, ac fe lansiodd ei gwmni fersiwn Saesneg o’r gêm CONFIDENT? rai blynyddoedd yn ôl, ac mae bellach ar gael i’w brynu mewn siopau mawr fel John Lewis ac ar wefan Amazon.

Bydd y gêm hefyd yn cael ei lansio yn yr Unol Daleithiau yr wythnos nesaf.

Ond mae’r cwmni hefyd yn awyddus i fwrw ati i greu HYDERUS?, fersiwn Gymraeg o’r gêm fydd yn cynnwys cwestiynau am Gymru a’r Gymraeg.

Fe ddaw wrth i arolwg awgrymu bod plant a’u teuluoedd wedi troi’n ôl at yr hen ffefrynnau, gan gynnwys ‘Monopoly’, i’w diddanu yn ystod y cyfnod clo eleni, a bod y fath gemau ar restrau plant yn eu llythyron at Siôn Corn eleni.

Hyderus
Y gêm CONFIDENT?

Sut mae chwarae CONFIDENT?

Mae’r gêm i dri neu fwy o bobol yn gofyn i gystadleuwyr ddyfalu’r atebion i gyfres o gwestiynau drwy ddyfalu amrediad o atebion.

Er enghraifft, pe bai’r cwestiwn yn gofyn beth yw maint yr adeilad mwyaf yn y byd mewn metrau, byddai gofyn i’r cystadleuwyr roi’r maint lleiaf (e.e. 750 metr) a’r maint mwyaf posib (e.e. 850 metr), yn ogystal â nodi’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif (e.e. 100 metr).

Mae cystadleuwyr yn ennill pwyntiau yn dibynnu pa mor agos ydyn nhw at yr ateb cywir.

Maen nhw’n ennill tri phwynt am fod yr un sy’n dyfalu’r amrediad lleiaf (e.e. 100m), ac un pwynt am fod o fewn yr amrediad cywir (e.e. 750-850 metr).

Os yw pawb yn dyfalu’n gywir o fewn eu hamrediad eu hunain, dydy’r un sydd wedi dyfalu’r amrediad mwyaf ddim yn ennill pwyntiau.

Mae modd amrywio’r gêm ychydig hefyd wrth ennill pwyntiau ddarogan atebion cystadleuwyr eraill, neu fe all y cystadleuwyr mwyaf hyderus nodi eu bod nhw eisiau dyblu eu pwyntiau am ddyfalu ateb i gwestiwn penodol.

Hyderus?

“Ni’n credu y bydde fe’n cŵl iawn gan nad oes llawer o gemau bwrdd Cymraeg ar gael, a bydde fe’n annog pobol i gymdeithasu yn Gymraeg a gall e fod yn hwb i’r iaith – i siaradwyr Cymraeg iaith gynta’ ac ail iaith,” meddai.

Er mwyn mesur pa mor boblogaidd fyddai fersiwn Gymraeg o’r gêm, mae’r cwmni’n gofyn i bobol am eu barn am gemau Cymraeg – o’u harferion chwarae eu hunain, eu hoff gemau yn Gymraeg neu Saesneg, eu parodrwydd i brynu gemau Cymraeg a Saesneg newydd, ac a fyddai’n well gan bobol brynu’r fersiwn bwrdd neu’r we.

“Er mwyn rhagfynegi pa fath o alw bydde am y gêm yn y Gymraeg, ni ’di creu sampl ddigidol o HYDERUS?” meddai wedyn.

“Dim ond pen a papur sydd angen i chwarae (does dim angen y gêm Saesneg), a mae’n hawdd i chwarae ar alwad fideo gyda teulu a ffrindie. Perffaith ar gyfer hanner tymor a’r Dolig!

“Mae’r cwestiynau i gyd am Gymru yn y Gymraeg, ac mae’r iaith wedi cael ei phrawfddarllen gyda chefnogaeth Comisiynydd y Gymraeg.”

Mae modd ateb yr arolwg fan hyn