Mae Alex Salmond, cyn-brif weinidog yr Alban, yn galw am ymestyn yr ymchwiliad i ymddygiad Nicola Sturgeon wrth ymdrin â chwynion yn ei erbyn.
Ar ddiwedd yr achos hwnnw, cyfeiriodd prif weinidog yr Alban ei hun at ymgynghorwyr annibynnol ar y cod gweinidogol.
Daeth cadarnhad yn gynharach eleni gan y Dirprwy Brif Weinidog John Swinney y byddai rhan Nicola Sturgeon yn yr helynt yn cael ei chraffu.
Ond mae Alex Salmond am i’r ymchwiliad fynd ymhellach na hynny, gan ofyn a fyddai’r ymchwiliad hefyd yn ceisio darganfod a wnaeth Nicola Sturgeon fethu â dilyn cyngor cyfreithiol ac a wnaeth gweision sifil fethu â rhoi gwybodaeth onest i’r Senedd.
Cafwyd Alex Salmond yn ddieuog o 13 o gyhuddiadau, gan gynnwys ceisio treisio, pan aeth e gerbron yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.
Ymateb Llywodraeth yr Alban
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban eu bod nhw’n “ymwybodol o gynnwys llythyr Mr Salmond”.
Mae galwadau Alex Salmond hefyd wedi’u cefnogi gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, wrth iddyn nhw hefyd alw am ymchwiliad i ddarganfod a wnaeth Nicola Sturgeon gamarwain y Senedd.
Mae’n deillio o gyfarfod rhwng Nicola Sturgeon a Geoff Aberdein, cyn-bennaeth staff Alex Salmond, lle cafodd hi wybod am yr honiadau am ymddygiad ei rhagflaenydd.
Dywedodd Nicola Sturgeon wrth y Senedd nad oedd hi’n ymwybodol o’r honiadau am bedwar diwrnod wedi hynny, pan roddodd Alex Salmond wybod iddi’n bersonol amdanyn nhw mewn cyfarfod yn ei chartref.
Mae’n dweud ei bod hi wedi anghofio beth oedd cynnwys y sgwrs gyda Geoff Aberdein, ond fod y sgwrs ag Alex Salmond “wedi’i serio ar ei chof”.
Mae galwadau ar iddi gamu o’r neilltu pe bai unrhyw ymchwiliad yn dod o hyd i ymddygiad oedd yn ceisio camarwain y Senedd.