Mae nifer o bobol fusnes sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i Gatalwnia wedi cael eu harestio gan heddlu Sbaen ar amheuaeth o droseddau ariannol.
Maen nhw wedi’u hamau o gamddefnyddio arian cyhoeddus, gwyngalchu arian ac o dorri dyletswyddau swyddogol.
Fe ddaw ar ôl i lysoedd Barcelona awdurdodi cyrchoedd ar hap mewn 31 o safleoedd yng Nghatalwnia.
Ymhlith y rhai a gafodd eu harestio roedd Josep Lluís Alay, pennaeth swyddfa Carles Puigdemont, y golygydd adnabyddus Oriol Soler a David Madí, un o brif swyddogion yr hen blaid wleidyddol CiU.
Mae tua dwsin o bobol eraill hefyd wedi bod yn destun ymchwiliad ac wedi’u harestio, ac yn eu plith mae ymgyrchwyr a lobïwyr gwleidyddol.
Mae lle i gredu bod ymchwiliad ar y gweill i’w rhan mewn protestiadau yn dilyn refferendwm annibyniaeth 2017, oedd yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan Sbaen.