Mae adroddiadau am ymosodiad honedig ar wefan yr Arlywydd Donald Trump, wythnos yn unig cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Dywed llefarydd ar ran ei ymgyrch fod swyddogion yn cydweithio â’r awdurdodau er mwyn dod o hyd i wraidd yr ymosodiad.

Ond maen nhw’n dweud nad yw data wedi cael ei beryglu am nad yw’n cael ei storio ar y wefan.

Yn ôl neges wnaeth ymddangos ar y wefan am gyfnod, “mae’r byd wedi cael llond bol o’r newyddion ffug sy’n cael ei ledaenu bob dydd gan yr arlywydd donald j trump”.

Ymddangosodd neges arall yn fuan wedyn yn dweud bod y safle i lawr am gyfnod, ond mae bellach wedi cael ei hadfer.

Dydy’r FBI ddim wedi ymateb hyd yn hyn.