Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ac Alliance yn annog arweinwyr gwledydd Prydain i gydweithio er mwyn “achub y Nadolig”.
Maen nhw am weld Mark Drakeford, Boris Johnson, Nicola Sturgeon ac Arlene Foster yn cyhoeddi cyngor sy’n cydnabod ei bod yn “anochel” y bydd pobol yn teithio o un wlad i’r llall dros gyfnod yr Ŵyl.
Mewn llythyr, maen nhw’n rhybuddio nad oes modd cyhoeddi cyngor ar gyfer gwledydd unigol Prydain oherwydd natur perthynas “gysylltiol” y gwledydd unigol â’i gilydd.
Maen nhw’n galw am “uwchgynhadledd pedair gwlad” i drafod y sefyllfa.
Mae Syr Ed Davey, arweinydd y blaid Brydeinig, wedi llofnodi’r llythyr, ynghyd â’r arweinydd Cymreig Jane Dodds, yr arweinydd Albanaidd Willie Rennie a dirprwy arweinydd Alliance, Stephen Farry.
Y llythyr
“Mae’n gyfrifoldeb arnoch chi a’ch cyfoedion i gydweithio ar draws y llywodraethau i archwilio datrysiadau allai weithio ac sy’n galluogi teithio i ddigwydd yn ddiogel,” meddai’r llythyr.
“Er mwyn rheoli’r goblygiadau i iechyd y cyhoedd, rydym yn eich annog i gynnal uwchgynhadledd pedair gwlad i gydweithio ar ddychwelyd myfyrwyr, i gytuno ar arweiniad unffurf ar nifer y bobol sy’n gallu ymgynnull, ac i archwilio sut orau i ehangu opsiynau teithio i alluogi cadw pellter cymdeithasol.”
Yn ôl Syr Ed Davey, “all yr un wlad ddim rheoli’r her hon wedi’i hynysu”, ac mae’r rheolau unigol yng ngwledydd Prydain “eisoes wedi bod yn eithriadol o anodd i’w rhoi at ei gilydd”.
Y dulliau unigol o weithredu
Er bod y pedair gwlad yn gweithredu mewn modd tebyg ar ddechrau ymlediad y coronafeirws, mae’r arweinwyr unigol wedi bod yn amrywio’r cyngor fesul dipyn wrth i amser fynd yn ei flaen.
Yng Nghymru, mae Mark Drakeford yn dweud y dylai’r cyfnod clo dros dro alluogi pobol i gael y Nadolig “heb fod angen cyfnod o gyfyngiadau mor ddifrifol â hyn rhwng nawr a’r pryd hwnnw”.
Yn yr Alban, mae Nicola Sturgeon yn dweud bod y llywodraeth yn ystyried dyddiadau gwahanol ar gyfer diwedd tymor y Nadolig i fyfyrwyr ac o bosib eu profi, yn ogystal â sefyllfaoedd lle mae myfyrwyr yn mynd adref at berthnasau bregus.
Yn Lloegr, mae Downing Street yn dweud mai “uchelgais” y llywodraeth yw “sicrhau y gall pobol ddathlu’r Nadolig fel teulu eleni”.