Mae dau blentyn ymhlith pedwar o bobol fu farw wrth geisio cyrraedd gwledydd Prydain ar ôl i gwch suddo ger Dunkirk yn Ffrainc.

Cafodd 15 o bobol eu cludo i’r ysbyty ac mae’r awdurdodau’n chwilio am unrhyw bobol eraill oedd yn y cwch.

Bu farw dau blentyn – pump ac wyth oed – a dau oedolyn ar ôl i gwch suddo oddi ar Dunkirk, yn ôl awdurdodau Ffrainc.

Mae’n debyg mai dyma’r golled fwyaf o ran bywydau yn ystod yr argyfwng ffoaduriaid presennol, gan ddod â nifer y bobol sydd wedi marw ers 2018 i ddeg.

Bu adnoddau milwrol a chychod sifil yn rhan o’r gwaith achub ar ôl i’r cwch gael ei weld mewn trafferthion ger Dunkirk.

Mae lle i gredu bod y cwch yn ceisio croesi i wledydd Prydain, er gwaethaf gwynt o hyd at 18m.y.a.

Dywed sylfaenydd Care4Calais Clare Moseley fod y gymuned ffoaduriaid yn Calais yn “galaru”.

“Rydyn ni’n galaru’r dioddefwyr, rydyn ni’n cydymdeimlo ac mewn undod â’u teuluoedd a’u ffrindiau,” meddai.

“Mae’n greulon ac yn arswydus bod plant ifanc ymhlith y dioddefwyr y tro hwn.

“Mae’n rhaid i’r golled ddiangen hon ddod i ben.

“Ni ddylai unrhyw un deimlo bod yn rhaid iddyn nhw fentro eu bywydau yn croesi’r Sianel, yn enwedig yr holl blant sy’n agored i niwed.”