Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo dros £700,000 i gyflogi mwy o ofalwyr i gefnogi pobol fregus yn y sir dros y misoedd nesaf.

Dywed y Cyngor eu bod yn rhagweld y bydd llawer mwy o alw am wasanaethau iechyd a gofal yng nghymunedau Gwynedd yn sgil pandemig y coronafeirws, a bod angen recriwtio mwy o staff i’r maes.

Yng nghyfarfod diwethaf Cabinet Cyngor Gwynedd, clywodd cynghorwyr y bydd gwasanaethau gofal cartref, cartrefi preswyl a chefnogaeth i unigolion ag anableddau dysgu yn dod o dan bwysau sylweddol dros y misoedd i ddod.

“Rydym fel Cyngor wedi penderfynu clustnodi mwy o arian nag arfer ar gyfer y sector gofal yn y sir er mwyn ymateb i gynnydd anochel mewn galw am wasanaeth gofal cymdeithasol,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, dirprwy arweinydd Cyngor Gwynedd, sydd hefyd yn Aelod Cabinet sydd yn gyfrifol am Ofal.

“Ein prif fwriad ydi diogelu pobol Gwynedd, gwarchod ein staff a llenwi bylchau staffio sy’n ymddangos o ganlyniad i Covid-19.”

Hyfforddiant, telerau gwaith da ac oriau cyson

Dywed y Cyngor eu bod nhw’n cynnig hyfforddiant, telerau gwaith da ac oriau cyson, gyda gwaith llawn amser a rhan amser ar gael yn syth.

“Bydd yr ymgyrch Galw Gofalwyr yn targedu unigolion sydd yn awyddus i wneud gwahaniaeth, cefnogi pobol yn eu cymunedau, newid neu ddatblygu gyrfa yn y maes iechyd a gofal, neu gamu ymlaen i helpu mewn cyfnod o argyfwng,” meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig wedyn.

“Gallai troi at yrfa yn y maes dros dro neu’n fwy parhaol yn y sector iechyd a gofal fod yn cynnig atebion i ni fel Cyngor ac i ddynion a merched yng Ngwynedd sydd mewn sefyllfa ansicr ar hyn o bryd.

“Y cymhwyster pwysicaf ydi diddordeb mewn pobol ac awydd i helpu a gwneud gwahaniaeth yn eu hardal leol.”