Bydd Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford – cyflwynwyr Priodas Pum Mil – yn ymuno ag arlwy wythnosol BBC Radio Cymru.

O Dachwedd 20, bydd y ddau yn cyflwyno rhaglen fyw bob bore dydd Gwener rhwng 9 ag 11 y bore .

“Da ni methu aros at dreulio’n dyddia Gwener efo gwrandawyr Radio Cymru a chychwyn y penwythnos efo llwyth o tiwns, digon o siarad a lot o laffs, ’da ni wir yn edrych ’mlaen”, meddai Trystan Ellis-Morris.

Enillodd y ddau wobr cyflwynydd gorau BAFTA Cymru yn ddiweddar am eu gwaith ar raglen Prosiect Pum Mil ar S4C.

‘Gwneud Bywyd yn Haws’

Bydd Hanna Hopwood Griffiths hefyd yn ymuno a’r orsaf.

Hanna Hopwood Griffiths

Bob nos Fawrth bydd Hanna’n cyflwyno rhaglen newydd sy’n pontio rhwng rhaglenni’r prynhawn a’r nos.

Rhaglen drafod gyda’r nod o wneud bywyd ychydig bach yn haws yw ‘Gwneud Bywyd yn Haws’

Bydd Hanna Hopwood Griffiths a’i gwestai yn trafod pob math o bynciau – o ddyledion, i iechyd, i faterion yn ymwneud â’r cartref – gan gynnig ychydig o gyngor a gair i gall ar hyd y ffordd.

“Mae’n anodd cyfleu pa mor hapus ydw i o gael y cyfle hwn i fynd ati i ymchwilio a sgwrsio am bob math o bethau a fydd, gobeithio, yn gwneud bywyd yn haws – o’r pethau bychain i’r pethau mawr,” meddai Hanna Hopwood Griffiths.

“Mae cael cyfleoedd i ni ddod at ein gilydd ac agor sgwrs mor bwysig.

“Mewn cyfnod ble nad ydyn yn gallu gweld ein gilydd, mae datblygu ein sgiliau gwrando yn bwysicach nag erioed.”