Mae Cymru wedi ychwanegu Lithiwania a Chyprus i restr cwarantin Cymru, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Mae’n golygu y bydd yn rhaid i bobol sy’n teithio i Gymru o’r gwledydd hyn hunanynysu am 14 diwrnod os byddant yn cyrraedd y Deyrnas Unedig ar ôl 4 y bore, dydd Sul Tachwedd 1.

“Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Lithiwania a Chyprus yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio”, meddai Vaughan Gething.

Ychwanegodd y bydd diwygiadau pellach yn cael eu gwneud i’r eithriadau lle nad oes rhaid i bobol hunanynysu.

Ni fydd rhaid i filwyr tramor sy’n cymryd rhan mewn ymarferion hyfforddi yng Nghymru hunanynysu a bydd rhai digwyddiadau chwaraeon wedi eu heithrio.