Mae’r ystadegau coronafeirws diweddaraf yn dangos bod y sefyllfa’n dwysáu yn y Cymoedd.

O bob ardal yng Nghymru, Merthyr Tudful sydd a’r nifer uchaf o achosion i bob 100,000 person.

Bellach, mae ystadegau dros y saith diwrnod diwetha’ yn dangos bod 523.8 o bob 100,000 â choronafeirws yn ardal y fwrdeistref sirol honno.

Ddydd Mercher, roedd ffigurau’r ‘saith diwrnod diwethaf’ yn dangos mai 487.4 oedd y ffigur.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Rhondda Cynon Taf sydd yn ail â 463.4 (sy’n gynnydd o’r 458.8 a gofnodwyd dydd Mercher). Blaenau Gwent sydd yn drydydd â 420.8.

Ffatri fwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cadarnhau bod 48 o weithwyr mewn ffatri fwyd yn Bedwas, Caerffili, wedi derbyn prawf positif am y coronafeirws.

Cafodd uned brofi ei gosod yn ‘Peter’s Food Service’ yr wythnos ddiwetha’ wedi iddo ddod i’r amlwg bod 19 aelod staff â’r feirws. Daeth yr achosion yma i’r amlwg wedi i 600 o bobol gael eu profi.

Y darlun cenedlaethol

Heddiw (29 Hydref), nodwyd 1,375 yn rhagor o achosion o Covid-19 yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 47,834.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 21 yn rhagor o farwolaethau wedi’u cofnodi, gyda chyfanswm nifer y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn codi i 1,848.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi trydar am ei dristwch am y marwolaethau:

“Rwyf yn drist iawn o glywed bod 21 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws wedi’u cofnodi yng Nghymru heddiw,” meddai.

“Rwyf yn meddwl am deuluoedd a chyfeillion pawb sydd wedi marw neu sy’n dioddef o ganlyniad i’r clefyd creulon hwn.”