Mi fydd hynny yn gam “dewrach a doethach” na gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, yn ôl Rebecca Williams, is-ysgrifennydd UCAC.
Ac yn ôl Guto Wyn, pennaeth Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, mae angen “bod yn glir o ran beth sydd yn cael ei asesu a sut mae’n cael ei asesu – a hynny ddigon buan i roi chwarae teg i’r bobl ifanc.”
“Cam doeth iawn”
“Mae’n rhaid cydnabod y sefyllfa eithriadol sydd ohoni,” meddai is-ysgrifennydd UCAC, Rebecca Williams, sydd wedi croesawu’r argymhellion heddiw.
“Dwi’n credu bod y syniad o ganslo arholiadau allanol yn llwyr neu eu lleihau i’r graddau fwyaf posib, yn gam doeth iawn.”
“Mae’n edrych fel petai Cymru yn mynd i gymryd penderfyniad dewrach a doethach na sydd wedi ei gymryd yn Lloegr ac yn Ogledd Iwerddon yn arbennig,” meddai “sydd wedi penderfynu gohirio’r arholiadau o rai wythnosau yn unig.”
Dywedodd bod “rhaid rhoi pwyslais ar sicrhau cynllun a threfniadau trefnus, sydd wedi ei benderfynu o flaen llaw, er mwyn rhoi sicrwydd i bawb ac osgoi newidiadau funud olaf.”
Mae disgwyl i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Griffiths, wneud cyhoeddiad swyddogol ynglŷn â’r mater ar Dachwedd 10.
“Mae o’n poeni fi” – safbwynt disgyblion
Mae Begw Elain, disgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Dyffryn Nantlle wedi bod yn trafod ei theimladau ynglŷn â’r argymhelliad gyda Golwg360.
“Yn y dechrau, oni isio cynnal yr arholiadau, achos ma’ pawb wedi bod drwy’r cyfnod stydio ac wedi gweithio mor galed ond o sbïo rŵan, dani di colli 6 mis o ysgol a dwi jyst ddim yn meddwl bod o’n bosib,” meddai.
Eglurodd Begw Elain bod cynnal tasgau asesu wythnosol yn yr ysgol yn ei rhoi o dan bwysau.
“Dani’n cael tasg asesu bob wythnos yn yr ysgol,” meddai, “ac mae o mor stressful! Mewn tair wythnos mae gen i 11 mock – un i bob pwnc.”
“Dwi’n gobeithio bydden nhw’n gwneud wbath hefo’r tasgau asesu ’ma oherwydd mae’r athrawon yn nabod ni ac yn gwybod gallu ni.”
“Mae o’n poeni fi a dwi’n meddwl bod o’n wbath ‘ma pawb yn yr ysgol yn poeni am.”
“Dyfodol ni ydi o – ddim nhw”
Er hynny, dywedodd Cerys Elen, o Fethesda, sy’n ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Dyffryn Ogwen, y byddai’n siomedig o beidio cael y cyfle i eistedd ei harholiadau.
“Fyswn i bach yn gutted bod fi heb gael y cyfle i ddangos be dwi’n gallu gneud,” meddai.
“Ma’ lot o bobl yn credu bod nhw am allu neud yn well mewn arholiad na fysa nhw drwy gydol y flwyddyn.
Mae’n croesawu’r profion ffug, sy’n rhoi math o rwyd diogelwch i ddisgyblion mewn cyfnod mor ansicr.
“Os ydi’r arholiadau’n cael eu canslo – mi fydda ni’n iawn gan fod ni hefo’r proof yma i gyd, os dydyn nhw ddim, wel o’ leiaf mi yda ni wedi cael digon o bractis!”
Dywedodd bod angen i’r Llywodraeth fod yn holi barn y bobl ifanc:
“Maen nhw angen siarad mwy hefo ni am y peth – dyfodol ni ydi o – ddim nhw,” meddai.
“Mae’n rhaid i’r cymhwyster fod o werth”
Yn ôl Guto Wyn, Pennaeth Ysgol Glan y Môr, nid yw’n deg i unrhyw un drïo cynnal arholiadau o dan drefniadau arferol, “pan dydi’r byd ddim o dan amodau arferol”.
“O ddarllen drwy’r cyhoeddiad, mae’n edrych fel eu bod wedi mynd i gryn ddyfnder o graffu gan ystyried beth yw’r opsiynau a beth sy’n rhesymol a sut mae sicrhau asesiad teg,” meddai.
“Mae’n bwysig bod y disgyblion yn teimlo bod eu cymwysterau’r un mor werthfawr â disgyblion y gorffennol. Er eu lles nhw, mae’n rhaid i’r cymhwyster fod o werth ac mae modd defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu i sicrhau hynny.”
“Cyfleu’r pictiwr cyfan” cyn gynted ag y bod modd
Mae Dewi Lake, pennaeth Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog hefyd yn gefnogol o’r argymhelliad – ond dywedodd mai’r her i’r Llywodraeth yw rhoi datganiad a “chyfleu’r pictiwr cyfan” cyn gynted ag y bod modd.
“Mewn sefyllfa fel hyn, pa bynnag fodel fydd yn cael ei gynnig, mi fydd rhai gwendidau, does neb ar fai am hynny ond beth sydd yn bwysig yw y bydd trafodaeth agored am y gwendidau yn syth – a bod hynny ddim yn cael ei adael tan Awst 2021, fel y gwneir llynedd,” meddai.