Mae uwch-feddygon wedi galw am adolygiad o sut y mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon fod canllawiau’n achosi oedi ac yn ychwanegu at y pwysau mae’r GIG yn ei wynebu.
Mae’r Coleg yn honni bod cleifion a oedd wedi gwella yn aros yn hirach na’r angen, gan ddefnyddio gwlâu heb fod angen.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r canllawiau yn galluogi cleifion coronafeirws a chleifion arferol i gael eu rhyddhau mor brydlon a diogel â phosibl.
Mae disgwyl i ddata ar sut mae ysbytai’n ymdopi yn ystod y pandemig gael ei gyhoeddi heddiw (Hydref 29).
Cafodd canllawiau ar gyfer rhyddhau cleifion eu cyhoeddi ym mis Ebrill a’u diweddaru ym mis Gorffennaf.
“Peri pryder”
Dywedodd Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru: “Un o’r heriau rydyn ni’n eu gweld ar hyn o bryd yw bod oedi o ran cael pobl yn ôl allan i’w cartrefi oherwydd bod canllawiau’n cael eu cyflwyno sy’n golygu bod yn rhaid iddynt aros yn yr ysbyty, ac o ganlyniad mae yno lai o wlâu ar gael mewn ysbytai.
“Yna, ni allwn dderbyn cleifion newydd sydd hefyd angen gofal.”
Dywedodd ei bod hi’n “peri pryder” bod nifer o bobl yn yr ysbyty “bellach yn ffit ac yn iach a’u bod mewn gwirionedd yn wynebu mwy risg drwy fod yn yr ysbyty am yn hirach nag sydd angen.”
“Problemau difrifol”
Wrth ymateb i’r alwad gan uwch-feddygon, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, Andrew RT Davies AoS: “Mae hon yn broblem ddifrifol y mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru fynd i’r afael â hi ar unwaith.
“Rhaid i weinidog iechyd Llafur gynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yn cael eu rhyddhau o ystyried ei fod yn achosi oedi sylweddol ac yn ychwanegu pwysau diangen ar GIG Cymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r her o reoli cleifion yn yr ysbyty gyda Covid, a hebddo, yn ddigynsail.
“Mae’r canllawiau ar ryddhau o’r ysbyty, a ddiweddarwyd ar 2 Gorffennaf, yn galluogi rhyddhau claf i’r gymuned mor brydlon a diogel â phosibl.
“Rydym wedi bod yn glir y dylai’r holl weithgarwch brys, gan gynnwys gwaith canser, barhau lle mae’n ddiogel ac er lles gorau’r claf.
“Mae’r gwaith yn cael ei arwain yn glinigol ac mae ymgynghorwyr wrthi’n rhoi blaenoriaeth i gleifion yn nhrefn angen clinigol.”