Mae cyn AS Iddewig wedi galw am ymchwiliad i Jeremy Corbyn a gwrth-Semitiaeth.

Daw hyn yn dilyn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar wrth-Semitiaeth yn y blaid yn ystod ei arweiniad.

Cyhuddodd Luciana Berger, a adawodd y Blaid Lafur y llynedd, Jeremy Corbyn o fod yn wrth-Semitig a dywedodd fod ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn “ofnadwy.”

Daeth corff gwarchod hawliau dynol i’r casgliad fod y blaid wedi bod yn gyfrifol am weithredoedd anghyfreithlon o aflonyddu a gwahaniaethu.

Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei ddiarddel o’r Blaid Lafur yn ogystal â cholli’r chwip.

Wrth siarad ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi, dywedodd Jeremy Corbyn nad oedd yn derbyn holl ganfyddiadau’r EHRC, gan fynnu ei fod wedi gwella’r broses ymdrin â chwynion gwrth-Semitig.

Mewn datganiad, dywedodd: “Er nad wyf yn derbyn ei holl ganfyddiadau, dw i’n hyderus y bydd ei argymhellion yn cael eu gweithredu’n gyflym er mwyn i ni allu symud ymlaen.”

Aeth ymlaen i ddweud bod “maint y broblem ei orliwio yn ddramatig er dibenion gwleidyddol gan ein gwrthwynebwyr oddi fewn a thu allan i’r blaid.”

“Damniol”

Dywedodd Luciana Berger wrth BBC Radio 5 Live: “Mae canfyddiadau’r adroddiad heddiw yn ddamniol, ni chredaf y gallent fod wedi bod yn waeth na’r hyn rydym wedi’i glywed a’i weld heddiw.

“Roedd gwrth-Semitiaeth yn treiddio i’r Blaid Lafur o’r top i’r gwaelod.

“Digwyddodd llawer o bethau na ddylai fod wedi digwydd erioed.”

Jeremy Corbyn “bendant yn wrth-Semitig” meddai Luciana Berger

“Os yw rhywun yn gwneud sylwadau gwrth-Semitig, ac yn rhannu llwyfan gyda phobol wrth-Semitig, maen nhw’n wrth-Semitig.” meddai Luciana Berger pan ofynnwyd iddi a oedd hi’n credu fod Jeremy Corbyn yn wrth-Semitig.

A phan ofynnwyd iddi’r ail dro, dywedodd: “Ydi, bendant.”

“Yn sgil yr adroddiad hwn, mae angen i’r Blaid Lafur ystyried a oes angen cynnal ymchwiliad iddo ar gyfer gwrth-Semitiaeth.”

Dywedodd Ms Berger fod olynydd Jeremy Corbyn, Syr Keir Starmer, wedi’i ffonio nos Fercher ac ymddiheuro iddi ar ran y blaid.

“Diwrnod o gywilydd i’r Blaid Lafur”

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd Llafur, Angela Rayner, wrth raglen World At One ar BBC Radio 4: “Rwy’n torri nghalon ei fod wedi dod at hyn. Dylai heddiw fod am wrando go iawn, a darllen ac ystyried yr adroddiad.

“Mae’n ddiwrnod o gywilydd i’r Blaid Lafur ac roedd y canfyddiadau’n llwm iawn.

“Mae Jeremy yn ddyn cwbl weddus, ond fel y dywedodd Margaret Hodge, mae ganddo fan dall llwyr o ran rhai o’r materion hyn ac mae hynny’n ddinistriol.”

Gwrthododd haeriad Mr Corbyn fod gwrth-Semitiaeth wedi’i gorliwio a dywedodd fod canfyddiadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dwyn “cywilydd arnom”.

“Ac nid oes unrhyw liniaru ar hynny, ac mae’n rhaid i ni gydnabod hynny a gwneud rhywbeth yn ei gylch,” ychwanegodd Ms Rayner.

Dywedodd yr AS Llafur y Fonesig Margaret Hodge, a fu’n gwrthdaro dro ar ôl tro â Mr Corbyn tra’i fod yn arweinydd, mai “diarddel oedd y penderfyniad cywir yn dilyn ymateb cywilyddus Corbyn i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol”.