Fe ddylai arholiadau TGAU yng Nghymru’r flwyddyn nesaf gael eu sgrapio, gyda graddau’n seiliedig ar waith cwrs ac asesiad mewnol, yn ôl argymhelliad gan Cymwysterau Cymru.

Yn ôl y corff fe ddylai myfyrwyr barhau i sefyll arholiadau Lefel A (Safon Uwch) yn yr haf ond fe ddylai’r profion ar gyfer myfyrwyr TGAU a Lefel AS fod yn wahanol.

Fe fu beirniadaeth lem o’r modd y cafodd yr arholiadau eleni eu canslo oherwydd y cyfnod clo. Roedd bwriad i roi graddau’n seiliedig ar system ddadleuol cyn i hynny gael ei ddisodli gan asesiadau athrawon.

Roedd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol i’r hyn aeth o’i le a hefyd wedi gofyn am gyngor ynglŷn â sut ddylai’r arholiadau yn yr haf y flwyddyn nesaf gael eu cynnal, os oedd cyfnodau clo eto a myfyrwyr yn hunan-ynysu.

Asesiadau

Mae Cymwysterau Cymru yn argymell y dylai asesiadau allanol barhau ar gyfer arholiadau TGAU, AS a Lefel A y flwyddyn nesaf ond na ddylai arholiadau gael eu cynnal ar wahân i rai Lefel A.

Fe fyddai graddau TGAU a Lefel AS yn seiliedig ar waith cwrs ac asesiad mewnol yn ystod y flwyddyn.

Ar gyfer Lefel A, yn ogystal â gwaith cwrs, fe fyddai myfyrwyr yn sefyll un arholiad am bob pwnc gyda chyfle ychwanegol i sefyll yr arholiad os yw’r disgybl yn sâl neu’n hunan-ynysu.

Yn y llythyr at Kirsty Williams mae David Jones, cadeirydd Cymwysterau Cymru, a’r prif weithredwr Philip Blaker yn dweud eu bod yn argymell trefniadau asesiad a fydd “yn cynnig mwy o hyblygrwydd.”

“Annheg”

Yn y cyfamser roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol sy’n argymell nad yw myfyrwyr yn sefyll arholiadau o gwbl y flwyddyn nesaf a bod graddau’n cael eu cyflwyno ar sail asesiadau yn yr ysgolion a cholegau.

Dywed yr adolygiad: “Yn dilyn ymgynghoriad gyda nifer fawr o sefydliadau yng Nghymru, mae’r panel yn credu’n gryf y byddai parhau gydag unrhyw fath o arholiadau yn 2021 yn annheg i bobl ifanc Cymru a bod risg uchel y bydd amhariad pellach.”

Mae Kirsty Williams wedi dweud y bydd yn cyhoeddi penderfyniad terfynol ynglŷn ag arholiadau’r flwyddyn nesaf ar Dachwedd 10.

Dywedodd ei bod yn aros i gyhoeddi penderfyniad nes bod disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl y gwyliau hanner tymor a’r cyfnod clo byr, a’i bod wedi bod yn aros am gyngor cyn gwneud penderfyniad.

“Anghytuno”

Ond mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig Suzy Davies AoS wedi dweud “nid yw’n helpu bod y ddau adolygiad yma ddim yn datrys unrhyw beth, gyda’r ddau yn anghytuno a’i gilydd.

“Dw i’n gobeithio y bydd y gweinidog addysg yn dangos rhyw fath o arweiniad ar y mater, yn wahanol i’r hyn wnaeth yn gynharach yn y flwyddyn gan wthio penderfyniadau ar athrawon a phenaethiaid ysgol yn hytrach na’u harwain.”

Mae golwg360 wedi bod yn holi barn am yr argymhelliad – gan gynnwys barn y disgyblion.