Mae arolwg cenedlaethol wedi dangos bod 70% o bobl hŷn yng Nghymru wedi ei chael yn anodd cael mynediad at apwyntiadau ysbyty, meddygon teulu, deintydd a thrin traed yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Er i 78% o’r rhai oedd wedi ymateb ddweud mai peidio gallu gweld ffrindiau a theulu oedd eu her fwyaf.

Cynhaliwyd yr arolwg gan Age Cymru mewn cydweithrediad â phum sefydliad pobl hŷn cenedlaethol.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, cafodd dros 1,000 o ymatebion gan bobl hŷn ledled Cymru.

Gwaethygodd unigrwydd, sydd eisoes yn broblem i lawer o bobl hŷn, gan y pandemig gyda 32% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn unig, gan godi i 55% ymhlith y rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain.

Roedd bron i hanner yr ymatebwyr (44%) yn dweud fod y sefyllfa’n heriol yn feddyliol ac yn emosiynol, tra bod cael gafael ar fwyd a phresgripsiynau yn broblem i bron un o bob pedwar.

“Caledi gwirioneddol”

Roedd profiadau eraill a amlygwyd yn yr arolwg yn cynnwys cael eu targedu gan sgamiau, colli incwm drwy golli swyddi, a gorfod teithio am fwyd neu apwyntiadau meddygol gyda llai o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus wedi’u lleihau’n sylweddol.

“Mae’r arolwg wedi tynnu sylw at galedi gwirioneddol i bobl hŷn sydd, mewn llawer o achosion, yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael i lawr gan wahanol wasanaethau cymorth,” meddai Prif Weithredwr Age Cymru, Victoria Lloyd.

“Gyda’r gaeaf yn dod mae angen ymdrech ar y cyd i sicrhau bod gennym y systemau a’r cymorth cywir ar waith ar gyfer pobl hŷn; mae’r holl sefydliadau a weithiodd gyda’i gilydd i lunio’r adroddiad hwn wedi ymrwymo i weithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed, nad ydynt yn cael eu gadael a bod eu hanghenion yn cael eu cyflawni hyd y gorau o’n galluoedd.”

Dywedodd Julie Morgan AoS, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Hoffwn ddiolch i Age Cymru a phawb a gymerodd ran yn yr arolwg hwn – gall amrywiaeth y lleisiau a’r profiadau ein helpu i ddeall yr heriau unigol y mae pobl hŷn wedi’u hwynebu dros y misoedd diwethaf a chynllunio ar gyfer y misoedd i ddod.”