Mae ’na bryderon bod nifer o gleifion canser yn oedi cyn gofyn am gymorth yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) wedi annog pobl i beidio anwybyddu symptomau sy’n eu poeni ac i ofyn am help.

Mae elusen cymorth canser Macmillan yn amcangyfrif y gall degau o filoedd o bobl fod a chanser a ddim yn gwybod.

Yn ôl yr elusen mae cymaint â 50,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig a chanser sydd heb gael diagnosis oherwydd effaith Covid-19.

Mae Macmillan hefyd wedi codi pryderon am y rhai sy’n aros am ofal canser sydd wedi cael ei effeithio gan y pandemig, mewn adroddiad newydd.

“Anghofio”

Mae’r oedi wedi’i achosi gan nifer o ffactorau gan gynnwys miloedd o bobl sydd heb fynd i weld eu meddyg teulu, apwyntiadau pwysig wedi’u heffeithio, yn ogystal â llawdriniaethau a thriniaethau yn ystod ton gyntaf y pandemig, meddai’r elusen.

Dywedodd Lynda Thomas, prif weithredwr Macmillan ei bod yn annerbyniol bod cleifion canser yn wynebu oedi annioddefol a digynsail a allai effeithio eu siawns o oroesi.

“Nid yw canser yn stopio ar gyfer Covid-19 ac ni ddylai ein gwasanaethau iechyd.”

Ychwanegodd: “Fe ddylai llywodraethau roi addewid i bob person sydd â chanser na fyddan nhw’n cael eu hanghofio a sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael eu diogelu – doed a ddelo.”

“Blaenoriaeth”

Mae’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn Lloegr wedi anghytuno gyda chasgliadau Macmillan gan ddweud bod triniaethau canser “wedi dychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig.”

“Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd heb gael diagnosis yn bobl sydd heb ddod i gael profion felly mae ein neges yn glir – os oes gynnoch chi symptomau sy’n eich poeni mae’n rhaid i chi fynd am gymorth – mae’r GIG yn barod i’ch trin chi.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol bod triniaethau canser a diagnosis wedi bod yn “flaenoriaeth” yn ystod y pandemig.