Mae arbenigwyr wedi rhybuddio bod cyfyngiadau’r coronafeirws yn Lloegr “ddim yn ddigonol”, gyda nifer yr achosion yn dyblu bron bob naw diwrnod.
Dywed yr arbenigwyr bod yr ail don wedi cyrraedd “cam tyngedfennol” yn Lloegr, ond mae’r Llywodraeth yn parhau i wrthod cyflwyno mesurau llymach.
Mae data Coleg Imperial Llundain yn amcangyfrif bod tua 96,000 o o bobl yn cael eu heintio bob dydd a chanfu arwyddion cynnar bod niferoedd mewn ardaloedd risg isel yn dilyn tueddiadau a welwyd yn y rhanbarthau yr effeithiwyd arnynt waethaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Robert Jenrick fod cyfraddau’r coronafeirws yn “wael” ledled y wlad ond ychwanegodd fod y Llywodraeth yn gwrthwynebu cyfnod clo cenedlaethol arall.
“Byddwn yn parhau â’n dull lleol o weithredu lle mae’r feirws ar ei gryfaf, ond gallwch weld o’r ffigurau hynny fod y feirws yn wael ym mhob rhan o’r wlad,” meddai wrth Sky News.
Dywedodd fod y Llywodraeth yn “credu’n gryf” na ddylai gyflwyno cyfnod clo byr.
“Angen meddwl am newid ein dull”
Ond dywedodd Steven Riley, athro clefydau heintus yng Ngholeg Imperial Llundain, fod y data o’r astudiaeth yn awgrymu bod “angen i ni feddwl am newid y dull o weithredu.”
“Rwy’n credu mai’r hyn y mae ein hastudiaeth yn ei ddangos yw y byddai manteision gwirioneddol o gael rhyw fath o bolisi cenedlaethol,” meddai.
“Gallem atal y patrwm yn y de rhag efelychu patrwm presennol y gogledd yn ogystal â gwrthdroi’r sefyllfa yn y gogledd cyn gynted â phosibl.
“Mae’n rhaid cael newid. Mae’r gyfradd dwf rydym yn ei gweld yn y data yn cynyddu’n gyflym iawn, felly un ffordd neu’r llall mae’n rhaid newid cyn y Nadolig.”