Mae tri pherson wedi’u lladd mewn ymosodiad gan ddyn gyda chyllell yn Ffrainc bore ma (dydd Iau, Hydref 29).

Dywedodd yr heddlu bod yr ymosodiad wedi digwydd tu allan i eglwys Notre Dame yn ninas Nice a bod yr ymosodwr wedi cael ei arestio. Mae’r dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ol cael ei anafu wrth ei arestio.

Credir bod y dyn yn gweithredu ar ei ben ei hun ac nid yw’n glir ar hyn o bryd beth oedd y cymhelliad y tu ol i’r ymosodiad.

Roedd senedd y wlad wedi rhoi’r gorau i gynnal dadl am fesurau coronafeirws newydd er mwyn cynnal munud o dawelwch i gofio’r rhai fu farw.

Mae erlynwyr gwrth-frawychiaeth Ffrainc yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.

Daw hyn ar ol i densiynau gynyddu wedi dau ymosodiad arall yn sgil cyhoeddi cartwnau o’r Proffwyd Mohammed.