Mae’r comedïwr Bobby Ball wedi marw yn 76 oed.

Roedd Bobby Ball, un o’r ddeuawd gomedi Cannon & Ball, wedi cael prawf positif am Covid-19, meddai ei reolwr.

Bu farw yn Ysbyty Fictoria yn Blacpwl nos Fercher, Hydref 28 meddai ei reolwr mewn datganiad.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael trafferthion anadlu.

Dywedodd gwraig Bobby Ball, Yvonne, y bydd colled fawr ar ei ôl, “roedd yn llawn hwyl ac yn ddireidus.”

Dywedodd Tommy Cannon, ei bartner comedi: “Rock on, fy ffrind annwyl. Alla’i ddim credu hyn, dw i wedi torri fy nghalon.”

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei reolwr Phil Dale: “Roedd Bobby yn seren gomedi gwirioneddol ac wrth ei fodd yn diddanu pobl ac roedd yn caru bywyd.”

Daeth Bobby Ball a Tommy Cannon i amlygrwydd gyda’u sioe gomedi The Cannon And Ball Show rhwng 1979 hyd at 1988, ac roedd y ddau hefyd wedi ymddangos yn y ffilmiau The Boys in Blue yn 1982 a Mr H Is Late yn 1988, yn ogystal a chymryd rhan yn y gyfres I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! yn 2005.