Fe gafodd artist o Gaerdydd ei ddenu’n ôl i’w blentyndod yn ystod y cyfnod clo…

‘Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.’ Fe allech chi ddweud bod llinell glo T H Parry-Williams o’i gerdd enwog ‘Hon’ yn disgrifio i’r dim berthynas yr artist Richard Barrett â Chymru.