Cafodd awdur llyfrau plant o Gaerdydd fodd i fyw dros y cyfnod clo yn darganfod byd natur gyda’i phlant…

Mae plant wrth eu boddau yn sylwi ar y pethau bach sydd wrth eu traed – y chwilen fach ar gerdded, llaw fawr y ddeilen sycamor, y robin goch fach yn llamu’n sionc. Ac mae’r awdur llyfrau plant, Luned Aaron, yn cael modd i fyw yn darlunio’r rhyfeddodau bychain yma ar gyfer ei llyfrau tlws a swynol.