Tudur Owen, Rhys Mwyn, Georgia Ruth – mae’r DJs i gyd wrth eu boddau gyda llais synhwyrus cantores o Gaerdydd…

Wedi blynyddoedd yn gwrando ar farn pobol eraill am ei cherddoriaeth, mae Elin Parisa Fouladi yn torri ei chwys ei hun.

Ac mae’n amlwg yn gweithio i’r ferch gyda’r llais synhwyrus – mae ei chân ‘Cysgod yn y golau’ yn cael ei chwarae yn aml ar raglenni Tudur Owen, Rhys Mwyn a Georgia Ruth ar Radio Cymru.