Mae hi wedi bod yn wythnos ryfedd iawn i fod yn lyfrbryf. Yn fy swydd bod dydd, dw i’n gweithio i geisio annog pobl i ymddiddori mewn llyfrau. Mewn byd lle mae adloniant clou i’w gael drwy gyffwrdd sgrin, mae ceisio denu pobl at hen gyfrolau ac archifau yn gallu teimlo weithiau fel golchi sloth mewn bath o driog – araf, anodd a braidd yn ecsentrig. Ond dros yr wythnos ddiwetha, mae pobl Cymru a’u llyfrau wedi bod yn destun dadl a phenawdau newyddion, wrth i luniau o silffoedd llyfrau wedi’u cau