Dros Galan Gaeaf, fe allwch chi wylio gŵyl ffilmiau arswyd o’ch soffa glyd, ond mi fydd rhaid i chi fod yn eich sedd yn brydlon…

Eleni yw’r tro cyntaf i drefnwyr Abertoir yn Aberystwyth roi arlwy’r ŵyl ffilmiau arswyd flynyddol ar-lein.

Fe fydd yn cynnwys sgwrs gyda rhai o gyfarwyddwyr ffilmiau arswyd enwocaf America a’r Eidal.

Hefyd mae’r ŵyl wedi llwyddo i sicrhau mai hi fydd yn cynnal premiere Ewropeaidd rhai ffilmiau newydd sbon, er eu bod nhw ond i’w gweld ar-lein ac nid yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth fel bob blwyddyn arall.

Yn eu plith mae Tales of the Uncanny, ffilm ddogfen sy’n edrych ar hanes ffilmiau arswyd ac a gafodd ei chreu yn ystod y cyfnod clo.

“Mae honna’n ffres iawn,” meddai cyd-gyfarwyddwr yr ŵyl, Nia Edwards-Behi. “Achos ein bod ni wedi bod yn digwydd am ddigon hir erbyn rŵan, rydan ni’n gyfarwydd efo rhai o’r cwmnïau sy’n prynu’r ffilmiau yma, y dosbarthwyr. Efo [cael bod y cyntaf i ddangos] rhai, mae yna bach o elfen o nabod y bobol sy’n ’neud y ffilmiau, digwydd bod fod yr amseru yn gweithio, a bod ffilm newydd gael ei gwblhau.”

Gydag un o’r premieres Ewropeaidd, The Cemetery of Lost Souls, roedd yr ŵyl wedi dangos ffilm gan yr un cyfarwyddwr rai blynyddoedd yn ôl.

“Mae gyda chi ychydig bach o berthynas wedyn wrth ddod i ’nabod pobol a dweud, ‘rydan ni wir eisie gweld eich ffilm newydd chi,’” meddai Nia Edwards-Behi. “Weithiau, a ddim i danwerthu’r gwaith rydan ni’n ei wneud, ond mae o’n fater o lwc, efo amseru ac ati.”

Bleed with me

Dangosiadau cyntaf eraill yw’r ddrama o Ganada, Bleed With Me, gan yr awdur-gyfarwyddwr Amelia Moses; a’r ffilm gothig iasol o India, Kriya, gan Sidharth Srinivasan.

Fe benderfynodd y trefnwyr yn “gynnar” y bydden nhw’n rhoi’r ŵyl ar-lein eleni, er gwaetha’r pryder y byddai ffilmiau yn brin, “achos bod pawb yn addasu i bethau, a rhai gwyliau yn parhau yn gorfforol a sinemâu ar agor,” meddai Nia Edwards-Behi. “Achos mai ffilmiau newydd rydan ni’n eu dangos, nid rhai sy’ ddim allan yn y sinemâu yn gyffredinol, roedden ni’n poeni falle na fyddai pobol eisiau eu dangos ar-lein.

“Rydan ni wedi bod digon lwcus,” meddai, “fel bod y pandemig yn mynd yn ei flaen, bod lot wedi symud ar-lein. Mae’n help bod Gŵyl Ffilmiau Cannes, a’r London Film Festival, wedi digwydd unai yn gyfan gwbl ar lein neu’n hybrid.

“Yn amlwg rydan ni’n ŵyl llawer llai na’r rheiny, ond pan fo’r pethau mwy yn digwydd yr un ffordd, mae’n fwy derbyniol rywsut. Mae’n fwy normal ein bod ni’n gwneud ar-lein hefyd. Felly mae pob dim ar-lein eleni. Gawn ni weld sut mae’n gweithio!”

Heriau cynnal gŵyl rithiol

Roedden nhw hefyd yn betrus na fyddai pobol yn teimlo eu bod nhw’n rhan o ŵyl, o fod yn gwylio gartref. “Mae e mor anodd,” meddai. “Ond yn un peth, mae’r ffilmiau dim ond ar gael am gyfnod byr iawn, fel pe tasai rhywun yn mynd i’r sinema… Ry’n ni’n eu dangos ar-lein yn yr un ffordd. Felly bydd yna wriggle-room bach o ddeng munud i bobol gael pwyso play ar eu dyfais a chwarae’r ffilm. Os byddan nhw 20 munud ar ôl amser cychwyn y ffilm, fyddan nhw ddim yn gallu ei gwatsiad.

“Roedden ni eisie osgoi’r syniad yma bod o fel Netflix, sy’n rhywbeth gwahanol, a hefyd rydan ni’n trio cynnal pethau fel ‘Zoom Rooms’ 15 munud cyn i’r ffilm gychwyn, i bobol gael neidio mewn i ddweud helo.”

Maen nhw eisoes wedi gwerthu mwy o docynnau ar-lein na fyddai’n gallu eu ffitio yn y sinema yn y Ganolfan.

“Rydan ni’n gobeithio byddwn ni’n denu pobol newydd i’r ŵyl,” meddai Nia Edwards-Behi, “ac rydyn ni am drio sicrhau bod pawb yn gwybod mai yn Aberystwyth rydyn ni’n digwydd fel arfer. Os ydan nhw eisio dod flwyddyn nesa, bydd rhaid iddyn nhw ddod i Aberystwyth!”

Robyn Nevin yn y ffilm Relic

Enwogion o fri

Bydd y cyfarwyddwr, Roger Corman, yn ymddangos drwy Zoom i sgwrsio am ei addasiadau ffilm enwog o straeon Edgar Allan Poe gyda’r actor Vincent Price, nos Sul, Tachwedd 1.

Y gyntaf o’r ffilmiau yma yw House of Usher, a’r enwocaf yw The Masque of the Red Death (1964), sy’n amserol iawn eleni, yn ôl Nia Edwards-Behi.

“Dyma rai Vincent Price, efo hen gastell, stwff crîpi’n digwydd, yn lliwgar iawn,” meddai. “Mae The Masque of the Red Death (1964) yn eitha’ topical eleni achos mae o am ryw arglwydd sy’n cadw fo’i hun a’i ffrindiau i gyd yn ei gastell, yn cael partïon, tra bod y werin i gyd y tu allan yn diodde’ efo’r haint yma sy’n mynd o gwmpas.

Roger Corman

“Yn anffodus, dy’n ni ddim yn dangos y ffilmiau, ond mi fyddan ni’n cael sgwrs efo Roger Corman, ryw awr o hyd,” meddai. “Felly mae hwnna’n un o’r prif ddigwyddiadau arbennig.”

Mae’r ŵyl wedi denu Roger Corman drwy ferch yr actor enwog Vincent Price, Victoria Price, sydd wedi bod yn westai yn yr ŵyl ddwywaith.

Arbenigwr ar ffilmiau Price, Peter Fuller, fydd yn holi’r Americanwr, a bydd croeso i bobol sydd wedi cael tocyn anfon cwestiynau ymlaen llaw iddo eu holi ar eu rhan.

Gwestai arall mewn sgwrs Zoom yw’r cyfarwyddwr Eidalaidd Aldo Lado, a fydd yn trafod ei yrfa wedi dangosiad o’i ffilm giallo o 1972, Who Saw Her Die.

Ar noson Galan Gaeaf, fe fydd y digrifwr Robin Ince yn dychwelyd am yr ail flwyddyn i’r ŵyl i gyflwyno sioe stand-yp y mae wedi ei sgrifennu yn arbennig ar gyfer yr ŵyl eleni, The Robin Ince That Dripped Blood.

A fydd yna fampirod Covid?

Nia Edwards-Behi, un o drefnwyr gŵyl arswyd Abertoir

Roedd Nia Edwards-Behi yn benderfynol o beidio â dangos unrhyw beth a oedd yn ymwneud â firysau a phandemig eleni, gan ei bod hi’n tybio na fyddai ar bobol eisiau gwylio dim byd o’r fath.

Ond bydd hi’n ddiddorol gweld yn y dyfodol sut y bydd y byd ffilmiau arswyd yn ymateb i’r argyfwng Covid-19, meddai.

“Dw i ddim yn siŵr a fyddwn ni’n cael pethau amlwg am feirysau a phandemig, ond mae’r syniad o infection mewn ffilmiau arswyd yn gallu codi mewn ffyrdd gwahanol,” meddai. “Mae ffilmiau zombie i gyd am hynny. Bydd yn ddiddorol gweld a gawn ni twists newydd ar bethau. Fampirod, hyd yn oed – mae’r rheiny’n gallu cael yr elfen o infection a contagion. Bydd yn ddiddorol gweld a fydd take newydd yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd nawr.”

Efallai y gwelwn ni ffilmiau sy’n adlewyrchu ein dibyniaeth ar sgriniau cyfrifiadur, meddai – fel y ffilm newydd Hosts, a gafodd ei chreu drwy gyfrwng y platfform cyfarfodydd digidol, Zoom.

“Roedd gennych chi ran o hynny’n barod, ffilmiau fel Unfriended,” meddai, “sy’n stori weddol arferol am grŵp o bobol ifanc a rhywun yn dial arnyn nhw, ond mae’r ffordd o adrodd y stori yn digwydd drwy sgrîn gyfrifiadur.”

Gallwch brynu tocyn Abertoir (Hydref 28 – Tachwedd 1) neu docynnau i wylio ffilmiau unigol yr ŵyl ar www.abertoir2020.co.uk