Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

The Girl with the Dragon Tattoo – Stieg Larsson. Mae rhaid i mi ddarllen rhywbeth cyn mynd i gysgu bob nos – ac os nag oes rhywbeth newydd gyda fi, mi wna i gydio mewn hen ffefryn. Ysgrifennodd yr awdur dair nofel yn y gyfres yma ond bu farw yn sydyn cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Er mai ‘whodunnit‘ yw’r llyfr yn y bôn, mae’r stori dal yn cydio’r ail dro.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd