Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobr Cerddoriaeth Gymreig 2020 wedi’i chynyddu i 15 albwm eleni er mwyn nodi 10 mlynedd ers y gwobrau cyntaf.

Mae’r gwobrau yn cydnabod y gorau mewn creadigrwydd a cherddoriaeth newydd, yng Nghymru ac o Gymru.

Sefydlwyd Gwobr Cerddoriaeth Cymru yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a’r ymgynghorydd cerddoriaeth John Rostron.

Mae’r albwm buddugol yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid arbenigol.

Enillwyr Gwobr Cerddoriaeth Gymreig blaenorol:

  • Adwaith (2019)
  • Boy Azooga (2018)
  • The Gentle Good (2017)
  • Meilyr Jones (2016)
  • Gwenno (2015)
  • Joanna Grusome (2014)
  • Georgia Ruth (2013)
  • Future of the Left (2012)
  • Gruff Rhys (2011).

‘Rhoi cydnabyddiaeth i gerddoriaeth wych’

“Rydym wedi dathlu cymaint o albymau gwych ac wedi gweld 9 enillydd teilwng iawn hyd yma”, meddai Huw Stephens.

“Mae’r artistiaid o Gymru sy’n parhau i greu cerddoriaeth wych yn haeddu cydnabyddiaeth, ac mae Gwobr Cerddoriaeth Gymreig yn falch o allu gwneud hynny bob blwyddyn, gan roi sylw i’r albymau gwych hyn.

“Mae’n ymwneud yn fawr â darganfod hefyd, rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr cerddoriaeth yn darganfod cerddoriaeth newydd o Gymru y maent yn eu caru.”

Ychwanegodd John Rostron fod Covid-19 wedi dinistrio’r sector cerddoriaeth fyw eleni.

“Mae’n golygu bod eu cyfle i berfformio’n fyw, ennill incwm, a thyfu [nifer] eu cefnogwyr wedi’i rwystro”, meddai.

“Ond nid yw Covid-19 wedi cael gwared â’n hawydd i wrando ar, a darganfod, gerddoriaeth newydd.

“Mae ffrydio a phrynu recordiau newydd wedi bod yn achubiaeth i berfformwyr gyrraedd cynulleidfaoedd, ac i bob un ohonom aros mewn iechyd da gyda dos dyddiol o ganeuon newydd gwych.”

Dyma’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Cerddoriaeth Gymreig 2020

Bydd yr ennillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, Tachwedd 19.

Ani Glass
Ani Glass

Mirores gan Ani Glass (Recordiau Neb)

Mae Ani Glass, y cynhyrchydd ac artist o Gaerdydd, yn canu yn ei hieithoedd brodorol, y Gymraeg a Chernyweg yn ogystal â Saesneg.

Mirores yw albwm cyntaf iddi gynhyrchu ei hun a enillodd Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2020.

Gwrando

Colorama

Chaos Wonderland gan Colorama (Banana & Louie Records)

Chaos Wonderland yw seithfed albwm hir Colorama.

Mae’r albwm yn myfyrio ar harddwch ac anhrefn y byd a welodd y brif leisydd Carwyn Ellis wrth deithio gyda’r Pretenders.

Pan safodd y byd yn llonydd yn 2020, daeth Carwyn a’r cynhyrchydd Shawn Lee at ei gilydd i gwblhau Chaos Wonderland – albwm y dechreuon nhw ei recordio ddechrau 2018.

Gwrando

Cotton Wolf

Ofni gan Cotton Wolf (Bubblewrap)

Y cynhyrchydd Llion Robertson a’r cyfansoddwr clasurol Seb Goldfinch yw Cotton Wolf.

Ofni yw ail albwm i’r pâr ryddhau a’u hail enwebiad Gwobr Cerddoriaeth Gymreig.

Mae’r traciau newydd yn llawn synau electronig, syniadau hypnotig, haniaethol a melodig.

Gwrando

Care City gan Deyah

Care City gan Deyah (High Mileage, Low Life)

Care City yw’r albwm cyntaf gan Deyah ar ei label ei hun, High Mileage, Low Life.

NoNameDisciple gynt a enwebwyd yng Ngwobrau Cerddoriaeth Gymreig yn 2019.

Mae’r albwm yn gymysgedd llyfn o eiriau llafar a rap.

Mae’n ymdrin â phynciau unigedd a chaethiwed.

Gwrando

Steel Zakuski gan Don Leisure

Steel Zakuski gan Don Leisure (Group Bracil)

Mae’r bitfocsiwr a’r offerynnydd Don Leisure yn enw cyfarwydd ym myd cerddoriaeth electronig.

Mae Steel Zakuski yn gyfuniad o funudau cerddorol a samplau o roc, pop, grŵf prin a disgo o’r U.S.S.R o ddiwedd y 70au a dechrau’r 80au.

Gwrando

Georgia Ruth
Georgia Ruth

Mai gan Georgia Ruth (Bubblewrap)

Enillodd Georgia Ruth y Wobr Cerddoriaeth Gymreig yn 2013.

Recordiwyd Mai yn neuadd eiconig Joseph Parry yn Aberystwyth.

Mae’n ymdrin â dod yn fam am y tro cyntaf a’r chwilio am y rhithiol.

Gwrando

Pang! gan Gruff Rhys

Pang! gan Gruff Rhys (Rough Trade)

Pang! yw chweched albwm Gruff Rhys, 14 mlynedd ar ôl ei albwm unigol cyntaf.

Wedi ei recordio dros 18 mis, mae Pang! yn cynnwys cerddorion o bob cwr o’r byd, gyda geiriau Gruff yn y Gymraeg, bas gan Muzi, artist electronig o Dde Affrica, a drymiau gan Kliph Scurlock Cymro-Americanaidd.

Gwrando

Islet

Eyelet gan Islet (Fire Records)

Eyelet yw trydydd albwm gan y triawd Islet, a recordiwyd adref ym Mhowys.

Gyda themâu marwolaeth ac ailenedigaeth wedi’u cyflwyno mewn pop pysch, mae Eyelet yn gipolwg ar fyd lliwgar Islet.

Gwrando

Bring Me The Head of Jerry Garcia gan Keys (Recordiau Libertino Records)

Ers rhyddhau cerddoriaeth am y tro cyntaf yn 2002, mae Keys yn rhan chwedlonol o’r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Bring Me The Head of Jerry Garcia yw albwm cyntaf y band o Gaerdydd mewn pum mlynedd.

Gwrando

Kidsmoke

A Vision In The Dark by Kidsmoke (Recordiau Libertino Records)

A Vision In The Dark yw albwm cyntaf y pedwarawd indi-bop o Wrecsam.

Ar ôl cael sylw eisoes ar gyfres boblogaidd Netflix ‘Black Mirror’, mae yna gyffro mawr wedi bod at ryddhau’r albwm cyntaf hwn.

Gwrando

Los Blancos
Los Blancos

Sbwriel Gwyn gan Los Blancos (Recordiau Libertino Records)

Mae albwm cyntaf Los Blancos yn albwm Cymreig balch sy’n cyfleu profiadau diweddar y band o dor-calon, ynysu gwledig, cyfeillgarwch ac alcohol i gân serch at gi.

Gwrando

Valley Boy gan Luke RV

Valley Boy gan Luke RV (Valley Boy Records)

Artist, canwr a chyfansoddwr geiriau hip hop amgen o Gastell-nedd Port Talbot yw Luke RV.

Mae cerddoriaeth Luke yn ymwneud â phopeth o iechyd meddwl i ddefnyddio cyffuriau.

Mae ei sengl gyntaf ‘Ar Goll’ yn 2018 sydd wedi ei wylio dros 14,000 ar YouTube.

Gwrando

Right Hand Left Hand

Zone Rouge by Right Hand Left Hand (Bubblewrap Records)

Mae ‘Zone Rogue’ yn adrodd hanes dirmyg y ddynoliaeth dros y ddaear, yr aer a phobol, gyda phob un o’i 11 trac yn cyfeirio at leoliad ar y ddaear lle mae rhywbeth drwg wedi digwydd.

Gwrando

Silent Forum

Everything Solved At Once gan Silent Forum (Recordiau Libertino Records)

Mae albwm cyntaf hir ddisgwyliedig Silent Forum yn albwm gomedi am fywyd ar gyrion diwydiant cerddoriaeth Cymru.

Mae’r brif leisydd Richard Wiggins yn ysgrifennu gydag ymdeimlad hunan-ddychanol.

Gwrando

Yr Ods

Iaith Y Nefoedd gan Yr Ods (Lwcus T)

Mae trydydd albwm yr Ods yn albwm cysyniad Cymraeg aml-gyfrwng a grëwyd mewn partneriaeth a’r awdur Llwyd Owen.

Mae’r albwm yn creu byd Cymreig sydd wedi ei ysbrydoli gan ddiwyllianau go iawn.

Er bod y band cadw at yr alawon pop rydym yn gyfarwydd a chlywed ganddynt mae yna sain dywyllach i gymharu â’u gwaith blaenorol.

Gwrando

Bydd yr ennillydd eleni yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau, Tachwedd 19.